Rydym yn angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg.

Rydym yn croesawu pob unigolyn gyda breichiau agored i’n Cylchoedd Ti a Fi gan ein bod yn credu fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg a dylid rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn wneud hynny.

Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn i’r plant gael cyfle i fwynhau chwarae gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned neu ddisgled o de! Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Rydym fel un teulu mawr!

Wrth fynd i’r Cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i:

  • fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd
  • chwarae gyda phob math o deganau
  • dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
  • gwrando ar storiau
  • chwarae gyda thywod a chlai

… a joio!

Trwy roi’r Gymraeg i blant ifanc Cymru, rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddwylliannol agored a llawn bywyd.

Taflen Amlieithog

Mae Mudiad Meithrin yn credu y dylai pob plentyn fod gyda’r hawl i addysg Gymraeg. Mae ein taflenni hyrwyddo addysg Gymraeg ar gael mewn 8 iaith: Arabeg, Bengali, Punjabi, Saesneg, Pwyleg, Somali, Cymraeg ac Urdu.

Lawrlwytho

Taflen Siarad Dwy Iaith

Darllenwch mwy am ddarganfod y camau cyntaf at Ddwyieithrwydd.

Lawrlwytho