Eisiau gweithgareddau Cymraeg i’w cynnal yn eich cartref?  Yn yr adran yma mae llu o weithgareddau hwyliog i blant ifanc a chithau fel rhieni/gofalwyr i’w gwneud i ddifyrru’r plant adref.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys fideos byr gan staff Cymraeg i Blant, sesiynau Clwb Cylch, Gŵyl Dewin a Dathlu 2021 i ddathlu penblwydd Mudiad Meithrin yn 50, a Martyn Geraint yn cynnal sioeau byr fel rhan o Ŵyl Dewin a Doti Ddigidol 2020. Mae’r taflenni isod yn nodi nifer o wahanol weithgareddau digidol sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hyn, mae’r fideos isod ar gael ichi i ddifyrru’r plant.

Clwb Cylch

Mae Clwb Cylch yn cael ei ddarlledu am 10am bob bore Llun-Gwener gan ddod â’r Cylch Meithrin i’ch cartref chi. I wylio’n fyw, dilynwch gyfrif @mudiadmeithrin ar Facebook neu Twitter neu gallwch ddewis gwylio’r sesiynau isod ar unrhyw adeg pan fo’n gyfleus ichi.

Fideos Cymraeg i Blant

Dyma glipiau fideo o staff Cymraeg i Blant yn cyflwyno amrywiol sesiynau i chi eu mwynhau. Gallwch ddewis fideo gwahanol drwy glicio ar y llinellau sydd ar dop y fideo isod. Eisteddwch yn ôl a mwynhewch.

Gŵyl Dewin a Doti 2022

Ymunwch gyda Siani Sionc a Dewin i ddathlu ar y thema Cadw’n Heini!

Gŵyl Dewin a Dathlu 2021

Ymunwch â Siani Sionc, Martyn Geraint, a Dewin a Doti am daith drwy’r degawdau – o 1971 i 2021 – i ddathlu pen-blwydd Mudiad Meithrin yn 50! Sioe pum rhan i nodi carreg filltir arbennig. Gwyliwch yma.

Gŵyl Dewin a Doti 2020

Rydym yn angerddol am roi cyfle i blant Cymru fwynhau chwarae, dysgu a chymdeithasu yn y Gymraeg. Ar wahân i fynychu’r Cylch Meithrin a’r Cylch Ti a Fi, un ffordd ychwanegol o gyflanwi hyn yw trwy gynnal Taith Gŵyl Dewin a Doti bob blwyddyn. Fel rheol bydd diddanwr plant yn teithio ar hyd a lled Cymru am gyfnod o thua tair wythnos yn yr haf yn cyflwyno sioe fach llawn hwyl, dawnsio a chanu i blant, staff a rhieni’r Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a Meithrinfeydd Dydd.

Ond yn 2020 (oherwydd y pandemig) fe gynhaliwyd y Sioe ‘Dewin, Doti a’r Het Hud’ yng nghwmni Martyn Geraint yn ddigidol ac mae modd ichi weld y sioeau i gyd yma.