Cyfres o bodlediadau gan Mudiad Meithrin yw ‘Baby Steps Into Welsh’.

Y cyflwynydd teledu Nia Parry sy’n cyflwyno’r gyfres o bodlediadau sy’n rhoi cyfle i rieni rannu eu profiadau go iawn am daith eu plant trwy addysg Gymraeg hyd yma.

Ym mhob pennod mae Nia Parry yn cwrdd â rhieni sy’n trafod eu siwrneiau personol yn agored iawn ac mae Dr Enlli Thomas, arbennigwr ym maes dwyieithrwydd, yn ymuno â Nia i rannu ei harbenigedd a’i phrofiadau gyda rhieni sy’n wynebu’r penderfyniad am gyfrwng addysg eu plant.

Lucy Owen

Y newyddiadurwraig a chyflwynydd Lucy Owen sy’n lansio ein ail gyfres o’r podlediad Baby Steps Into Welsh! Mewn sgwrs fywiog ac agored gyda’n cyflwynwraig Nia Parry, mae Lucy yn sgwrsio am ei phenderfyniad i anfon ei mab Gabs i’r Cylch Meithrin a’r ysgol gynradd Gymraeg leol, er gwaethaf y ffaith ei bod hi wedi methu mewn sawl ymdrech i ddysgu’r iaith fel oedolyn. Cawn glywed sut y gwnaeth cyfweliad gyda niwrowyddonydd ei pherswadio i anfon Gabs i ysgol uwchradd Gymraeg, a sut roedd Gabs mor benderfynol o barhau ei addysg Gymraeg, er gwaethaf y ffaith bod yn rhaid codi’n gynt i ddal y bws ysgol! Mae Lucy’n rhannu sut mae’r Gymraeg fel anrheg i blant a sut mae’n dyheu am gael ei magu heddiw, ble mae pwyslais ar ddysgu a siarad Cymraeg o’r crud.

Trwy gydol y gyfres bydd yr arbenigwr iaith Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor yn gwrando ac yn ymateb i safbwyntiau’r cyfranwyr, ac hefyd yn ateb cwestiynau sy’n cael eu hanfon gan ein gwrandawyr.

Laura McAllister a Llinos Jones

Yr Academydd a chyn chwaraewr pel droed rhyngwladol Laura McAllster a’i phartner, y cynhyrchydd radio Llinos Jones, sy’n sgwrsio am eu perthynas gwahanol gyda’r iaith Gymraeg wrth dyfu fyny. Cawn glywed sut mae ei merched Anni a Bella yn mynychu’r Cylch Meithrin ers yn 2 oed, a sut mae Laura’n teimlo’r cyfrifoldeb i warchod a chadw’r iaith yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd ein cyflwynydd Nia Parry yn gwrando nol ar y sgwrs gyda’n arbenigwr iaith Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor, wrth iddi hi ymateb i’r hyn sy’n cael ei drafod.

Wayne a Connagh Howard

Y Tad a’r mab Wayne a Connagh Howard yw gwestai Nia ar y bennod hon. Cawn glywed sut wnaeth sgwrs gyda ffrind ysbrydoli Wayne a’i wraig i anfon y plant i’r Cylch Meithrin – a sut, i Wayne, roedd hyn yn ddechrau siwrne gariad 28 mlynedd gyda’r iaith Gymraeg. Yn un o gystadleuwyr ‘Love Island’ yn 2020, mae Connagh yn esbonio pam ei fod mor angerddol am y Gymraeg a sut roedd yn benderfynol o ddefnyddio’i broffil ar y rhaglen i hybu a hyrwyddo’r iaith. Yn gwrando gyda Nia, mae Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor, sy’n rhannu ei gwybodaeth broffesiynol am y buddion o ddysgu iaith a’r rhyfeddodau o amgylch “code – switching”.

Sarah Coltman a Fran Rumbelow

Dwy Fam o Loegr yw gwestai Nia yr wythnos hon, y ddwy newydd symud i Gymru gyda’i teuluoedd. Un o Essex yw Sarah Coltman, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Abertawe, dinas enedigol ei gwr. Un o Nottingham yw Fran Rumbelow, dechreuodd ddysgu Cymraeg gyda’r plant ar-lein, cyn symud i Sir Benfro. Mae’r ddwy wedi dewis anfon y plant i’r cylchoedd meithrin lleol a’r ysgolion Cymraeg. Cawn glywed am yr hyn oedd yn poeni’r ddwy a’i pryderon cyn dechrau’r daith i addysg Gymraeg, a pam bod y ddau deulu a’r pant mor hapus ei bod wedi mynd amdani. Yn gwrando gyda Nia, mae Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor, ein arbenigwr iaith sy’n ymateb i brofiadau’r ddau deulu.

Dr Enlli Thomas

Pa lyfrau ddylai fy mhlant ddarllen? Sut fedrai helpu efo’r gwaith cartref? All fy mhlentyn golli’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg? Fel diweddglo i Cyfres 2, mae ein arbenigwr iaith Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor yn ateb eich cwestiynau chi am addysg Gymraeg.