Fel rhiant, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi ichi deimlo eich bod yn dewis yr addysg orau i’ch plentyn. Gyda thros 40 mlynedd o brofiad ym maes addysg a blynyddoedd cynnar, a chyda dros 1,500 o staff cymwys a chyfeillgar yn gweithio yn ein Cylchoedd Meithrin ledled Cymru, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn derbyn gofal ac addysg blynyddoedd cynnar heb ei ail eich Cylch Meithrin lleol.
Nod y Cylch Meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys a brwdfrydig.
- Mae dros 500 o gylchoedd meithrin yng Nghymru
- Mae tua 13,000 o blant yn mwynhau dysgu trwy chwarae yn y cylchoedd meithrin
- Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin ond mae croeso i bob plentyn yn y cylch dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Mae chwarae yn bwysig i bob agwedd o ddatblygiad plant. Felly, mae’r profiadau a gweithgareddau'r yn y cylch wedi cael eu seilio ar ddysgu trwy chwarae. Mae pwyslais arbennig ar ddatblygiad iaith, datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plant yn y cylchoedd.
Mae croeso cynnes i bob plentyn ddod i'r Cylchoedd Meithrin waeth beth fo'i liw, hil, dosbarth cymdeithasol, sefyllfa teuluol neu anghenion addysgol. Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i blant gydag anghenion ychwanegol i'w galluogi i ymuno yn holl weithgareddau'r cylch.
Cliciwch yma i chwilio am eich cylch lleol chi.