Croeso i Cymraeg i Blant
Mae Cymraeg i Blant yn gynllun cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i phlant ac i ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg. Rheolir y cynllun gan Mudiad Meithrin sydd yn darparu gofal plant ac addysg Gymraeg cyn ysgol yn y meithrinfeydd dydd a chylchoedd meithrin.
Gwyddom fod mwyafrif o blant y byd yn siarad dwy iaith, a bod ganddynt y gallu i amsugno iaith yn gynnar, cyntaf i gyd mae plentyn bach yn clywed y Gymraeg, gorau i gyd.
Mae tîm o 25 Swyddog Cymraeg i Blant ar draws Cymru yn cynnig cyngor arbenigol, gwybodaeth a chefnogaeth i ddarpar rieni a rhieni newydd ar fuddion addysg Gymraeg a phwysigrwydd cyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i’r plentyn bach.
Gwneir hyn yn lleol trwy gynnig grwpiau cefnogi am ddim i rieni yn ystod tymor ysgol. Dyma flas o beth sydd ar gael:
- Gr?p Tylino babi (wythnosol) – cyfle i dylino babi trwy gyfrwng y Gymraeg a datblygu ymlyniad agos gyda’r babi trwy ganu rhigymau syml Cymraeg ( linc i’r ail dudalen)
- Gr?p Ioga babi (wythnosol) – cyfle i ddysgu symudiadau ioga babi syml trwy gyfrwng y Gymraeg a magu hyder wrth ddysgu rhigymau a geiriau syml i ddefnyddio gyda’r babi (linc i’r ail dudalen)
- Gr?p Stori a Chân (wythnosol) – cyfle i brofi sesiwn hwyliog wrth wrando ar stori a dysgu rhigymau syml i’w defnyddio adre (linc i’r ail dudalen)
- Clwb Doti a Fi (Misol) – cyfle ychwanegol i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a gwneud ffrindiau newydd (linc i’r ail dudalen.
Sut i gysylltu â Cymraeg i blant:
Ffôn: 01970 639639
E-bost: cymraegiblant@meithrin.cymru
Trydar - @Cymraegforkids
Am fwy o wybodaeth am grwpiau Cymraeg i Blant yn eich ardal cliciwch ar y linciau facebook isod neu cysylltwch gyda’ch Swyddog Cymraeg i Blant lleol:
Facebook.com/Cymraeg i Blant… (Tudalen cenedlaethol)
Facebook Cymraeg i Blant Casnewydd
Blaenau Gwent
Merthyr
Caerdydd
Gogledd Powys
De Powys
Penfro
Rhondda Cynon Taf
Caerffili
Penybont
Abertawe/CNPT
Sir Gâr
Conwy
Bro Morgannwg
Môn
Arfon
Dwyfor
Meirionnydd
Wrecsam
Dinbych
Sir y Fflint
Ceredigion
Mynwy
Torfaen
Mae tîm o Swyddogion Maes Cymraeg i Blant ar gael i gynnig cyngor arbenigol, gwybodaeth a chefnogaeth i ddarpar rieni a rhieni newydd a’u teuluoedd ar fanteision dwyieithrwydd cynnar gan ddwyn i sylw;
- Bod mwyafrif o blant y byd yn siarad dwy iaith a cyntaf i gyd mae plentyn bach yn clywed y Gymraeg gorau i gyd
- Bod gan bob plentyn yng Nghymru'r hawl i siarad Cymraeg ac i fanteisio ar ofal plant cyfrwng Cymraeg ac addysg Gymraeg
- Bod y Gymraeg yn llai tebygol o gael ei defnyddio o fewn teuluoedd lle mae un rhiant yn siarad Cymraeg, dim ond 45% o’r teuluoedd yma sy’n dewis trosglwyddo’r Gymraeg
- Bod trosglwyddiad iaith yn y cartref yn allweddol i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg