Croeso i adran pwyllgorau Mudiad Meithrin! Ydych chi’n meddwl am wirfoddoli ar bwyllgor Cylch Meithrin, ydych chi'n gwirfoddoli eisoes neu eisiau sefydlu pwyllgor newydd sbon? Mae gennym yr holl adnoddau sydd angen arnoch i wneud y penderfyniadau cywir.
Mae dros 400 o gylchoedd meithrin llwyddiannus yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Nid oes disgwyl i aelodau'r Pwyllgor fod yn arbenigwyr, ac mae staff Mudiad Meithrin yma i’ch helpu.
Er bod disgwyl i’r Cylch Meithrin weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes disgwyl i bob aelod o’r pwyllgor fedru siarad Cymraeg. Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir i fod yn rhan o bwyllgor y cylch.
Mae gan bob pwyllgor Cylch Meithrin Swyddog Cefnogi lleol sy'n gallu darparu cyngor ar amrediad o faterion rheoli.
Cyfrifoldeb cyfreithiol y pwyllgor yw rhedeg y Cylch Meithrin. Cliciwch isod ar yr adran sydd o ddiddordeb i chi.