Fel sefydliad sy’n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg rydym yn falch iawn o’n cynllun Cymraeg i Blant.

Mae Cymraeg i blant ar gael o’r cychwyn cyntaf i dy helpu di fel rhiant newydd i siarad Cymraeg gyda dy blentyn yn y cartref ac i dy gefnogi di wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.

Mae ein grwpiau wythnosol am ddim fel Tylino a Ioga babi ac Arwyddo stori a chân yn dy helpu i ddysgu mwy am ba hwiangerddi, llyfrau ac apiau y gellir eu cyflwyno adre – maent hefyd yn gyfle i ti gymdeithasu a chwrdd â rhieni newydd.

Mae hefyd modd ymuno mewn sesiwn rhannu gwybodaeth ar-lein Fi a fy Mabi sydd yn rhoi cefnogaeth bellach i ddarpar rieni a rhieni newydd.

Parhau gydag addysg Gymraeg yw’r cam nesaf.

Mae symud ymlaen o’r grwpiau Cymraeg i Blant i Gylch Ti a Fi yn gam naturiol a phwysig i’ch plentyn er mwyn iddo barhau i fwynhau profiadau dysgu a chwarae cyfoethog trwy gyfrwng y Gymraeg.

Babi newydd? Dyma flas ar y manteision o fynychu grwpiau Cymraeg i Blant.

Taflen manteision

Lawrlwytho