Ydych chi’n adnabod rhywun hoffai ddysgu siarad Cymraeg adref gyda’u plant?
Mae Clwb Cwtsh yn gwrs blasu Cymraeg 8 wythnos rhad ac am ddim sydd wedi’i anelu at ddysgwyr newydd ac sy’n canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref.
Bydd y cwrs nesaf yn dechrau dechrau mis Mai 2021 ac yn cael ei gynnal dros y wê, drwy rhaglen Teams – felly mae modd ei ddilyn o’r soffa!
I ddarganfod mwy am y sesiynau:
- Edrychwch ar y ddogfen isod sy'n cynnwys manylion y sesiynau.
- e-bostiwch: clwbcwtsh@meithrin.cymru
- chwilotwch ar-lein ar Trydar neu Facebook
- ffoniwch: Cathryn Jones - 07904964264
Am wybodaeth am ofal plant cyfrwng Cymraeg, cliciwch yma. Os eisiau cwrs mwy dwys, ewch i https://dysgucymraeg.cymru/clwbcwtsh
Mae modd ymarfer beth sydd wedi ei ddysgu yn y sesiynau trwy fynd i : https://dysgucymraeg.cymru/adnoddau-clwbcwtsh