Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ofal plant ac addysg Gymraeg o safon.

Fel sefydliad sy’n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg, rydym yn gwerthfawrogi fod dod o hyd i ofal plant o safon uchel yn hynod o bwysig ichi fel rhiant.

Mae Meithrinfa Garth Olwg yn darparu gofal ac addysg rhagorol i fabis ifanc a phlant hyd at oed ysgol o dan ofal staff cymwys a phrofiadol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig.

Mae hapusrwydd pob plentyn yn flaenoriaeth inni. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fydd yn hybu pob agwedd o’i ddatblygiad mewn awyrgylch hapus a diogel.

Mae gan y feithrinfa amrywiaeth eang o deganau, llyfrau a deunyddiau crefft ac arlunio, cyfleusterau chwarae dŵr a thywod ynghyd ag amrywiaeth o offer sy’n annog chwarae dychmygus ar mwyn annog bob plentyn i ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial.

Mae’r feithrinfa wedi ei chofrestru gydag AGC ac hefyd wedi derbyn arolwg ESTYN.

Rydym yn cynnig:

  • 10 awr am ddim Arian Addysg tair oed (arolygwyd gan Estyn).
  • Cynnig Gofal Plant 30 awr y Llywodraeth
  • Talebau Gofal Plant amrywiol
  • Cynllun Gwên

Pecyn i rieni

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r pecyn hwn i chi, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud eich penderfyniad. Rydym yn cydnabod fod dewis meithrinfa ar gyfer eich plentyn yn benderfyniad pwysig iawn, felly, os ydych yn dymuno trafod unrhyw agwedd o’r ddarpariaeth a’r cyfleusterau mae croeso i chi gysylltu â ni.

Amseroedd agor Meithrinfa Garth Olwg:

Dydd Llun - Gwener: 07:30 – 18:00 Sesiynau dydd: Bore 07:30 – 12.45 Prynhawn: 13:00 – 18:00 Diwrnod Llawn: 07:30 – 18:00 Diwrnod Llawn Byr: 07:30 – 16:30

Manylion cyswllt: 01443 209120

E-bost: post@meithrinfagartholwg.co.uk

Cyfeiriad: Campws Gymunedol Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd. CF38 1RQ

"Diolch o galon am roi gofal penigamp i’m plentyn. Does dim lle gwell!"

Mae fy mhlentyn wrth ei fodd yn y meithrin ac yn siarad am y staff a’r plant i gyd yn aml. Mae'n gweld pawb yna fel teulu agos ac yn datblygu mor dda yn addysgol o ganlyniad i waith caled pob un o’r staff arbennnig yno."

"Mae fy mhlentyn yn hapus ac yn ddiogel yn y feithrinfa a gallwn ddim gofyn mwy fel rhieni."