Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol ac mae'n cael ei gydnabod fel prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol. Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae tua 200 o staff cyflogedig gan y Mudiad yn genedlaethol a thros 1,500 o staff yn gweithio yn y cylchoedd meithrin. Mae Swyddogion Datblygu'r Mudiad yn gweithio’n lleol yn eu siroedd er mwyn cynnig arweiniad a chyngor ymarferol i staff y cylchoedd, gwirfoddolwyr a rhieni.
Gan fod chwarae yn sylfaenol i bob agwedd o ddatblygiad plant, mae’r profiadau a’r gweithgareddau a gynigir ar draws holl ystod ein darpariaethau wedi eu seilio ar ddysgu trwy chwarae. Mae pwyslais arbennig yn cael ei roi ar ddatblygiad iaith, ac ar ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plant yn ein cylchoedd
‘Rydym fel teulu wrth ein boddau pan ddaw ein mab ni adref yn llawn storïau doniol ac yn canu caneuon newydd a ddysgodd yn y cylch. Mae’r addysg gychwynnol a gaiff yno yn ardderchog.’
dyfyniad gan riant o gylch meithrin yn y gogledd