Ein gweledigaeth fel Mudiad yw y dylai bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i chwarae, dysgu a thyfu trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly ble bynnag mae ‘na blant bach yng Nghymru yna dylai Mudiad Meithrin (ac felly’r Gymraeg) hefyd fod yn bresennol.

Rydym yn angerddol am roi’r Gymraeg i blant Cymru ac yn credu fod plant yn elwa o fod yn ddwyieithog (ac mae gennym ddata i brofi hyn), felly byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r Gymraeg yn iaith fyw ac yn berthnasol i genedlaethau heddiw ac yfory.

Credwn mewn rhoi’r dechrau gorau i blant a gwyddom fod ein gwaith yn dylawadu’n fawr ar blentyn am weddill ei fywyd, felly rydym yn ddigyfaddawd am roi profiadau dysgu a chwarae cyfoethog, effeithiol a llawn gwybodaeth iddyn nhw. Rydym yn arwain trwy esiampl ac yn gosod safon i eraill ei dilyn.

Rydym yn elusen gofrestredig ac yn cael ein cydnabod fel y prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Mae gennym dros 200 o staff cyflogedig yn genedlaethol a thros 1,500 o staff yn gweithio yn y Cylchoedd Meithrin ledled Cymru.

Mae tîm o Swyddogion Cefnogi’r Mudiad yn gweithio’n lleol yn eu siroedd er mwyn cynnig arweiniad a chyngor ymarferol i staff y Cylchoedd, gwirfoddolwyr a rhieni.

Adroddiad Blynyddol 2020 – 2021

Lawrlwytho

Adroddiad Blynyddol 2021 – 2022

Lawrlwytho

Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023

Lawrlwytho