Mae Pwyllgor Rheoli Gwirfoddol yn gasgliad o unigolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i ymgymryd â rhedeg Cylch Meithrin yn y gymuned leol.
Y pwyllgor yw cyflogwr staff y Cylch Meithrin a’r pwyllgor sydd â chyfrifoldeb cyfreithlon dros y Cylch Meithrin.

 

 

Y Camau Cyntaf

Y ffordd orau i ddechrau yw casglu at ei gilydd nifer fach o bobl sy’n rhannu eich
diddordeb a siarad am beth fedrwch chi wneud. Does dim rhaid iddynt ymrwymo i gefnogi yn y tymor hir, efallai y byddant yn fodlon cyfrannu syniadau a phrofiad yn y camau cyntaf.

Os ydych yn bwriadu sefydlu Cylch Meithrin newydd cysylltwch â’ch Swyddog Cefnogi lleol.

Y Cyfarfod Cyntaf

Fel arfer mae’n syniad da i gynnal cyfarfod agored i lansio’r pwyllgor newydd er mwyn esbonio beth sydd gennych mewn golwg, denu gwirfoddolwyr ac i wneud neu gryfhau cysylltiadau defnyddiol.

I hyrwyddo eich cyfarfod cysylltwch â’r papurau a’r gorsafoedd radio lleol a hysbysebwch ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol lleol.

Rhowch wahoddiad i:

  • Eich Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin lleol
  • Gynghorwyr lleol, eich Aelod Senedd a’ch Aelod Seneddol
  • Mudiadau eraill sy’n gweithio mewn maes tebyg (e.e. Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol Gymraeg leol, Menter IaithClybiau Plant Cymru)
  • Mudiadau sy’n gweithio gyda grwpiau a chymunedau penodol
  • Staff allweddol yr awdurdod lleol (e.e. Tîm Gofal Plant, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd)
  • Cynrychiolydd o’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol

Dylai’r bobl hynny sydd eisiau bod yn rhan ffurfiol o’r Cylch Meithrin gwrdd i ffurfio pwyllgor rheoli a ffurfio cyfansoddiad. Bydd angen penderfynu ar strwythur cyfreithiol i’r pwyllgor.

Isod mae amrywiaeth o adnoddau marchnata i’ch cynorthwyo gyda hyrwyddo a hysbysebu’r cyfarfod cyhoeddus, chwilio am wirfoddolwyr a hyrwyddo gwasanaethau’r Cylch Meithrin neu Ti a Fi.

Gwahoddiad i Gyfarfod Cyhoeddus

Lawrlwytho

Poster Cylch Newydd

Lawrlwytho

Poster Recriwtio Gwirfoddolwyr

Lawrlwytho

Poster Cylch Ti a Fi Newydd

Lawrlwytho

Enillydd Pwyllgor Cylch Meithrin Gwobrau 2020

Enillydd Gwirfoddolwr Gwobrau 2020