Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ofal plant ac addysg Gymraeg o safon.

Fel sefydliad sy’n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg, rydym yn gwerthfawrogi fod dod o hyd i ofal plant o safon uchel yn hynod o bwysig ichi fel rhiant.

Mae Meithrinfa ddydd Camau Bach yn darparu gofal ac addysg ragorol i fabis ifanc a phlant hyd at oed ysgol o dan ofal staff cymwys a phrofiadol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig.

Mae hapusrwydd pob plentyn yn flaenoriaeth i ni. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fydd yn hybu pob agwedd o’i ddatblygiad mewn awyrgylch hapus a diogel.

Mae’r feithrinfa wedi ei chofrestru gydag AGC.

Mae gan y feithrinfa amrywiaeth eang o deganau, llyfrau a deunyddiau crefft ac arlunio, cyfleusterau chwarae dŵr a thywod ynghyd ag amrywiaeth o offer sy’n annog chwarae dychmygus er mwyn annog bob plentyn i ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial.

Mae gennym ystafell sensori, ardal chwarae allanol a gardd sensori anturus!

Amseroedd agor Camau Bach

 

Dydd Llun - Gwener: 8:00yb - 6:00yh

Manylion Cyswllt – 01970 639655

E-bost: post@camaubach.co.uk

Cyfeiriad: Y Ganolfan Intergredig, Boulevard De Saint Brieuc, Aberystwyth, SY23 1PD

Rydym yn cynnig –

  • 10 awr am ddim Arian Addysg tair oed (arolygwyd gan Estyn)
  • Gofal ac ansawdd o safon drwy gyfrwng y Gymraeg (gweler ein hadroddiad AGC/Estyn diwethaf).
  • 5 awr Dechrau’n Deg i blant sy’n gymwys
  • Cynnig Gofal Plant 30 awr y Llywodraeth
  • Prydau poeth a byrbrydau iachus er mwyn hwyluso’r gwaith i rieni
  • Talebau Gofal Plant amrywiol
  • Cynlluniau amrywiol e.e. Cynllun Gwên, Cynllun Cyn Ysgol Iach, Cynllun Bwydo ar y Fron
  • Sesiynau Cylch Ti a Fi yn wythnosol yn adeilad Camau Bach (cyn Covid-19)
  • Clwb cyn ac ar ôl ysgol yn y feithrinfa ac yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth
  • Gwasanaeth casglu plant o Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Plascrug.

Mae ein ffioedd yn fwy cystadleuol na’r un feithrinfa arall yn yr ardal oherwydd ein bod yn cynnig:

    • Prisiau gwahanol i blant o dan ddwy oed ac i blant dros ddwy oed
    • Sesiynau rhatach os yw plentyn yn gorffen am 4.00
    • Sesiynau diwrnod llawn, neu sesiynau bore neu brynhawn yn unig.
    • Dau snac iachus a bwyd cynnes amser cinio

Pecyn i rieni

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r pecyn hwn i chi, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud eich penderfyniad. Rydym yn cydnabod fod dewis meithrinfa ar gyfer eich plentyn yn benderfyniad pwysig iawn, felly, os ydych yn dymuno trafod unrhyw agwedd o’r ddarpariaeth a’r cyfleusterau mae croeso i chi gysylltu â ni.

“Mae ein tair merch wedi elwa’n fawr drwy fynychu’r feithrinfa dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n grêt gallu mynd i’r gwaith gan wybod fod y plant nid yn unig yn ddiogel ond yn hapus ac yn mwynhau dysgu trwy’r holl brofiadau a gynigir iddynt yma. Diolch i’r staff am yr holl waith caled.”

“Gan fy mod i’n byw yn Aberystwyth ond teithio o'r gwaith sydd ugain milltir i ffwrdd mae’r gofal cofleidiol – defnydd y Clwb ar ôl Ysgol yn wych! Dwi’n mynd â’r plentyn i’r ysgol yn y bore ac yna yn ei gasglu o’r feithrinfa ar ddiwedd y dydd. Byddai’n anodd iawn i fy mhlentyn fynychu’r ysgol yn Aberystwyth oni bai am y gwasanaeth yma.”