Y pwyllgor rheoli sy’n gyfrifol am ddiogelwch y plant a’r staff tra’u bod yn y Cylch Meithrin, ac felly mae’n rhaid sicrhau'r canlynol:
Yr Amgylchedd
- Bod yr adeilad yn addas, cyfforddus a glân.
- Dylai tymheredd ystafell y cylch fod yn 18°c
- Rhaid cael un toiled ac un sinc i bob 10 plentyn
- Rhaid cael lle preifat i newid clwt, a dylid dilyn y weithdrefn yng nghynllun gweithredol y Cylch (templed ar y fewnrwyd)
- Rhaid sicrhau bod d?r poeth ac oer ar gael i olchi dwylo
- Dylid cael sinc amgen ar gyfer golchi paent ayyb (dylid trafod hyn gyda’r Swyddog Cefnogi lleol)
- Dylid ceisio, lle mae’n bosib, sicrhau cysgod yn y man chwarae tu allan
- Ni chaniateir ysmygu o unrhyw fath yn y Cylch Meithrin o dan unrhyw amgylchiadau.
Diogelwch
- Rhaid cael llyfr arwyddo i mewn ar gyfer staff ac ymwelwyr
- Rhaid cael cofrestr i nodi presenoldeb plant ac mae’n arfer dda cael taflen arwyddo plant i mewn ac allan o’r cylch (templed ar y fewnrwyd)
- Mae hefyd yn arfer dda i gael cofnod arwyddo i mewn ac allan i staff. (templed ar y fewnrwyd)
- Rhaid cadw prif ddrws y Cylch ar glo tra bod plant yn bresennol i atal y plant rhag mynd allan ac unigolion anawdurdodedig rhag dod i mewn.
Adnoddau
- Rhaid cadw sylweddau glanhau mewn cwpwrdd dan glo gan ddilyn canllawiau COSHH (Control of Substances Hazardous to Health).
- Rhaid sicrhau fod PAT Testing (profi offer trydanol cludadwy) yn digwydd bob dwy flynedd.
- Rhaid sicrhau fod boiler y lleoliad yn cael ei wirio gan beiriannydd cydnabyddedig yn flynyddol.
- Dylid sicrhau bod amserlen i olchi a gwirio teganau.