Os ydy'r pwyllgor rheoli wedi cofrestru fel sefydliad gydag Arolygaeth Gofal Cymru (AGC), rhaid enwebu Unigolyn Cyfrifol fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r gofal dydd ac yn bwynt cyswllt i AGC ar ran y pwyllgor.
Os yw'r sefydliad / pwyllgor yn gorff corfforaethol e.e yn SCE (CIO) rhaid i'r Unigolyn Cyfrifol fod yn swyddog o'r pwyllgor e.e ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr.
Os yw'r sefydliad yn gymdeithas anghorfforedig e.e pwyllgor gyda chyfansoddiad neu yn elusen gofrestredig, rhaid i'r Unigolyn Cyfrifol fod yn swyddog neu'n aelod o'r pwyllgor.
Yn gyffredinol, disgwylir i'r Unigolyn Cyfrifol ddangos bod y Cylch Meithrin yn cydymffurfio â gofynion amrywiol rheoliadau AGC.
Dywed AGC:
'Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer cofrestru yw'r rhain ac er mwyn darparu gofal plant o ansawdd, y disgwyliad cyffredinol yw i unigolion cyfrifol / bersonau cofrestredig weithio tuag at ragori ar y safonau sylfaenol hyn'.
Isod mae modd lawrlwytho copi o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC.