Tylino Babi
Dechrau’r daith ddwyieithog
Mae ein grwpiau yn gyfeillgar a chynhwysol ac yn ffordd wych i godi hyder, i ddysgu ychydig o Gymraeg neu i gymdeithasu a rhieni newydd yn eich ardal. Mae croeso i bawb, siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-gymraeg. Grwpiau tymor ysgol yn unig yw'r rhain, noder na chodir tâl am fynychu ein grwpiau.
Ar ôl mynychu ein grwpiau anogir rhieni i fynd draw i’w grŵp Ti a Fi lleol cyn cofrestru’r plentyn yn y Cylch Meithrin lleol.
Mae ein grwpiau tylino babi yn addas ar gyfer babis rhwng 8-24 wythnos oed
Cei gyfle i fwynhau amser un i un gyda dy fabi bach mewn awyrgylch gartrefol. Mae’r cwrs 6 wythnos yn canolbwyntio ar dylino gwahanol rannau o’r corff yn ogystal â dysgu hwiangerddi Cymraeg a geirfa syml i gyd-fynd a’r symudiadau. Mae hyn yn ffordd dda o fagu hyder yn y Gymraeg os nad wyt ti wedi defnyddio’r iaith ers dyddiau’r ysgol.
- Olew naturiol e.e. olew blodyn haul
- Lliain a mat newid babi
- Dillad sbâr i’r babi
Am fwy o wybodaeth am grwpiau Cymraeg i Blant yn eich ardal cliciwch ar y linciau facebook isod neu cysylltwch gyda’ch Swyddog Cymraeg i Blant lleol:
Facebook.com/Cymraeg i Blant… (Tudalen cenedlaethol)
Facebook Cymraeg i Blant Casnewydd
Blaenau Gwent
Merthyr
Caerdydd
Gogledd Powys
De Powys
Penfro
Rhondda Cynon Taf
Caerffili
Penybont
Abertawe/CNPT
Sir Gâr
Conwy
Bro Morgannwg
Môn
Arfon
Dwyfor
Meirionnydd
Wrecsam
Dinbych
Sir y Fflint
Ceredigion
Mynwy
Torfaen
- Cyfle i gryfhau’r ymlyniad rhyngot ti a dy fabi
- Cyfle i dy fabi brofi ymlyniad diogel a chadarn
- Mae’n help wrth swyno a chysuro dy fabi
- Cyfle i ddod i adnabod ymddygiad dy fabi
- Gall gynyddu dy hyder fel rhiant i ofalu am dy fabi yn ogystal â lleihau unrhyw bryderon
- Gall dy helpu os ydych yn teimlo bach yn isel
- Cyfle i ddysgu sgil rhianta gydol oes
- Gall wneud i dy fabi deimlo ei fod yn cael ei garu, ei werthfawrogi a’i barchu
- Gall leihau gofid emosiynol a chrio dy fabi
- Gall helpu gyda datblygiad iaith, lleferydd a datblygiad ymennydd dy fabi
- Cyfle i gael hwyl gyda dy fabi