Mae'r Trysorydd yn gyfrifol am y canlynol:
Agor neu gymryd cyfrifoldeb dros gyfrif banc yn enw’r Cylch (gall y banc ofyn am weld copi o gyfansoddiad y cylch) a sicrhau bod o leiaf 2 lofnod ar bob siec. Arwyddo sieciau ar ran y Cylch - dylid sicrhau llofnod un swyddog arall ar bob siec. Ni ddylai 2 aelod o'r un teulu llofnodi sieciau. Ni ddylai unigolyn sy'n gyflogedig gan y pwyllgor llofnodi sieciau.
Casglu ffioedd y Cylch boed drwy drosglwyddiad electroneg neu arian parod trwy drefniant rhwng y pwyllgor a’r arweinydd
Cadw cofnodion o’r holl arian a dderbyniwyd ac a dalwyd allan yn enw’r Cylch yn y llyfr cyfrifon/taenlen sy’n cael ei ddarparu i aelodau Mudiad Meithrin
Trefnu bod arian mân gan yr arweinydd i brynu eitemau mân i’r cylch. Rhaid nodi pob eitem mewn llyfr arian mân/cofnod electroneg a rhaid gwirio cyfanswm yr arian â’r cofnod yn y llyfr yn gyson.
Gweinyddu cyflogau’r staff (neu ddanfon manylion oriau gwaith y staff i ddarparwr TWE allanol). Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth am gyflogi staff.
Talu costau’r cylch
Ysgrifennu ceisiadau am grantiau i’r cylch gyda’r swyddogion eraill. Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth am grantiau.
Rhoi adroddiad ariannol byr neu baratoi mantolen syml ymhob cyfarfod.
Cyflwyno adroddiad ffurfiol o’r cyfrifon yn y Cyfarfod Blynyddol (gellir defnyddio ffurflen sydd wedi’i darparu gan Mudiad Meithrin fel rhan o’r Ffurflen Gofrestru). Dylai person annibynnol sy’n deall cyfrifon ac wedi cael ei gymeradwyo gan aelodau’r pwyllgor fod yn archwilio’r cyfrifon cyn y cyfarfod.
Paratoi ac anfon cyfrifon i’r Comisiwn Elusennau.
Ymaelodi â Mudiad Meithrin - sicrhau gyda'r swyddogion eraill bod y Cylch yn talu tâl yswiriant, ac yn gwneud cais am grant ynghyd â chyflwyno mantolen i Mudiad Meithrin yn flynyddol. Cliciwch yma i weld Pecyn Gwasanaeth Mudiad Meithrin.
Mae ystod eang o adnoddau i gefnogi'r Trysorydd ar gael i aelodau Mudiad Meithrin ar y fewnrwyd. Cysylltwch a'ch Swyddog Cefnogi lleol am fwy o wybodaeth.
Pan fydd cyfnod y Trysorydd yn dod i ben, rhaid trosglwyddo pob dogfen berthnasol i’r Trysorydd newydd.