Hyfforddiant | 21 Hyd 2021

Tendr: Gweithredu Cynllun Meithrin Gyrfa

Mae Mudiad Meithrin am beilota cynllun newydd sydd â’r bwriad o feithrin sgiliau a chodi hyder unigolion i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym am gael cymorth i weithredu’r cynllun.
Bwriad Meithrin Gyrfa yw arfogi ac uwchsgilio unigolion i fedru datblygu eu gyrfaoedd gan dynnu ar brofiadau, gwybodaeth a chysylltiadau Mudiad Meithrin fel rhan o’i weledigaeth a’i gyfraniad at wireddu Strategaeth Llywodraeth Cymru 2050 Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

Gwahoddir unigolion neu gwmnïau i gyflwyno cais yn dilyn y cynghorion uchod erbyn 12.00yp, 12fed Tachwedd. Bydd angen i’r cynllun fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2022.

Gweler y ddogfen dendr isod gyda’r manylion i gyd.

Dogfen Dendro Meithrin Gyrfa

Lawrlwytho