Arweinydd Cylch Meithrin Tonyfelin
Bedwas, Caerffili
Lleoliad: Capel Tonyfelin, Ffordd Bedwas, Caerffili. CF83 3AR
Cyflog: £10.00 yr awr.
Oriau: Dydd Llun i dydd Iau o 8:45yb – 12:45yp
Cymwysterau: Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch.
Gydag oriau ychwanegol gweinyddol i’w gymryd pan yn gyfleus.
Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, cysylltwch â: Michelle Killey, Cadeirydd drwy ebostio - tonyfelintrustees@gmail.com
Dyddiad Cau: 14/04/2021