Lleoliad: Bydd cyfleusterau swyddfa ar gael yn swyddfa y Mudiad Meithrin yn Wrecsam. Ar hyn o bryd, yn sgil Cofid-19 fe fydd trefniadau gweithio o adref yn weithredol ac fe fydd modd gweithio’n hyblyg trwy weithio cyfuniad o ddyddiau adref ac o’r swyddfa tu hwnt i’r pandemig.
Cyflog: MM15 – MM20 £21,032 - £24,526 (pro rata)
Oriau: 16 awr craidd yr wythnos
Cymwysterau: Gweler y Swydd Ddisgrifiad.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Carys Gwyn, Rheolwr Talaith y Gogledd Ddwyrain a'r Canolbarth naill ai drwy ffonio 07747 615941 neu e-bostio carys.gwyn@meithrin.cymru.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch.
Oherwydd hyn, ynghyd a diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru.
Dyddiad cau: 30/4/2021 11:55 yh.