Lleoliad: Lleolir y swydd yn un o swyddfeydd Mudiad Meithrin (Aberystwyth, Caerdydd, Llangefni neu Wrecsam) neu gyfuniad o weithio adre ac o un o’r swyddfeydd. Bydd disgwyl i’r person ymweld â’r brif Swyddfa yn Aberystwyth yn achlysurol.
Cyflog: MM22 – MM25 £26,166 - £29,033 y flwyddyn
Oriau: Llawn amser - 37.5 awr yr wythnos
Cymwysterau: Gweler y Swydd Ddisgrifiad.
Am fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Rhian Hanmer-Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol drwy e-bostio rhian.hanmer-jones@meithrin.cymru.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch.
Oherwydd hyn, ynghyd a diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru.
Dyddiad cau: 20/4/2021 11.55yh.