Lleoliad: Meithrinfa Hen Ysgol, The Old School, Chapel Street, Porthmadog LL49 9DS
Cyflog: £9.00 yr awr
Oriau: 27 awr yr wythnos dros dri diwrnod rhwng 8.00yb a 6.00yh
Cymwysterau: Rydym yn gofyn am ymarferydd Gofal Plant (Gwryw neu Benyw) gyda chymhwyster Lefel 2 a 3 (neu yn barod i dderbyn hyffordiant ac i weithio tuag at Lefel 3) sydd yn frwdfrydig, hapus a chymwys i weithio gyda phlant 2 i 3 mlwydd oed, gan ddarparu gofal corfforol ac emosiynol a galluogi amgylchedd dysgu rhagorol. Rhaid bod ganddo/ganddi ddealltwriaeth dda o'r Cyfnod Sylfaen ac ar gael i weithio 3 diwrnod yr wythnos, gyda chyfle am fwy o oriau. Mae hyblygrwydd yn fanteisiol.
* Meddu ar brofiad blaenorol o weithio mewn lleoliad tebyg.
* Y gallu i feithrin plant a'u cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.
* Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhieni, staff a phlant.
* Rhaid bod yn brydlon bob amser a gyda'r gallu i weithio mewn lleoliad prysur iawn.
* Meddu ar ddealltwriaeth dda o dechnoleg. Bydd angen cofnodi’r dysgu trwy ein ap.
Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, cysylltwch â: Theoldschoolnursery@hotmail.com neu drwy ffonio 01766515909.