Dirprwy Arweinydd Cylch Meithrin Deiniolen
Caernarfon
Lleoliad: Cylch Meithrin Deiniolen, Hafod Olau, Deiniolen, Caernarfon LL55 3LP
Cyflog: I'w drafod
Oriau: I'w drafod
Cymwysterau: Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am Ddirprwy Arweinydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y Cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 3 i ofalu am blant.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Dilwen Williams (Arweinydd) ar 07480 878084.
Dyddiad Cau: 12/03/2021