Cynorthwyydd Cylch Meithrin Waunfawr (Staff Banc)
Waunfawr, Caernarfon
Lleoliad: Cylch Meithrin Waunfawr, Y Ganolfan, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd LL55 4YY
Cyflog: £8.72 yr awr
Oriau: Achlysurol / hyblyg Dyddiad cychwyn – i’w drafod
Cymwysterau: Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig.
Bydd galw i weithio oriau hyblyg er mwyn llenwi i mewn ar gyfer staff parhaol y cylch mewn achosion o absenoldeb e.e. salwch, hyfforddiant.
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais plis cysylltwch a Ffion Griffiths (Ysgrifenyddes) ar 07795 413101 neu Cylchmeithrinwaunfawr@gmail.com
Dyddiad Cau: 05/03/2021