Lleoliad: Bydd disgwyl i’r sawl a benodir, weithio o adref a bydd cyfleusterau swyddfa ar gael yn swyddfa Mudiad Meithrin yn y dalaith.
Cyflog: MM15 - MM20 £20,620 i £24,045 (pro rata)
Oriau: 27 awr craidd yr wythnos
Cymwysterau: Gweler y Swydd Ddisgrifiad.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Ann Angell naill ai drwy ffonio 07967 017385 neu e-bostio ann.angell@meithrin.cymru.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch.
Oherwydd hyn, ynghyd a diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru.
Dyddiad cau: 1/3/2021 11:55yh
Dyddiad cyfweld: 8/3/2021