Lleoliad: Cylch Meithrin Glan y Môr, Ysgol Myfenydd, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5AT
Cyflog: Cyflog i'w drafod
Oriau: 8:00 - 4:00 dydd Llun i ddydd Mercher, 8:00 - 5:00 ar ddydd Iau (tymor ysgol yn unig)
Cymwysterau: Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y Cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus allu dechrau’n syth ar ôl gwyliau’r Pasg.
Cynhelir y cyfweliadau yn ystod wythnos yr 8fed o Fawrth.
Am fwy o wybodaeth, gwelir y Swydd Ddisgrifiad isod.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Angharad Rees-Jones - glanymor20@yahoo.com / 01974 202869.
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen gais isod ac anfon i'r ebost uchod.