Arweinydd Cylch Meithrin Garndolbenmaen
Ysgol Garndolbenmaen, Porthmadog
Lleoliad: Ysgol Gynradd Garndolbenmaen, Garndolbenmaen, Porthmadog LL52 9SZ
Cyflog: £10.00 yr awr
Oriau: Dydd Llun a Dydd Mawrth o 9.00yb - 1.00yp a oriau cynllunio
Cymwysterau: Dylai bod gan Arweinydd gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch, ynghyd â phrofiad perthnasol.
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am Arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Dyletswyddau:
Bydd yr Arweinydd yn atebol i Bwyllgor Rheoli'r cylch am gyflawni’r canlynol:
- arolygu, monitro a gwerthuso gwaith pob aelod o staff y Cylch
- sicrhau y gweithredir canllawiau a pholisïau’r Cylch Meithrin ym mhob gweithgaredd gan bob aelod o staff
- sicrhau bod y cylch yn gweithredu egwyddorion a nodau'r Cyfnod Sylfaen yn ei holl weithgareddau
- cydymffurfio â holl reoliadau cofrestru'r Arolygiaeth Gofal Cymru
- sicrhau bod ystafell y cylch a’r cyfleusterau (gan gynnwys y tu allan) yn ddeniadol ac yn groesawgar, ac yn cydymffurfio â holl ofynion iechyd a diogelwch
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Buddug Hughes ar 07955 875322 neu cylchgarndolbenmaen@outlook.com
Dyddiad Cau: 05/03/2021