Arweinydd Cylch Meithrin Y Gelli
Caernarfon
Lleoliad: Cylch Meithrin Y Gelli, Safle Ysgol Y Gelli, Ffordd Bethel, Caernarfon, LL55 1DU
Cyflog: £12.50 yr awr
Oriau: 08.30 – 15:30, dydd Llun i ddydd Gwener
Cymwysterau: L3 Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant neu uwch a profiad perthnasol i arwain y Cylch.
Disgrifiad bras o’r swydd:
- trefnu amgylchedd y cylch
- trefnu amrywiaith o weithgareddau y tu fewn a thu allan
- sicrhau bod croeso, sylw a gofal i bob plentyn
- sicrhau bod yr offer yn cael ei gadw’n daclus ar ôl pob sesiwn a bod yr ystafell yn lân
- cadw cofnod o ddatblygiad y plant gan gynnwys esiamplau o’u gwaith
- gallu siarad â’r plant yn y Gymraeg
Am fanylion llawn cysylltwch â Daniel drwy cylchygelli@yahoo.co.uk neu Cylch Meithrin Y Gelli ar 01286 673043.
Dyddiad Cau: 22/01/2021