Sesiynau Eraill
Dilyn y daith ddwyieithog
Mae ein grwpiau cefnogi rhieni yn gyfeillgar a chynhwysol ac yn ffordd wych i godi hyder, i ddysgu ychydig o Gymraeg neu i gymdeithasu a rhieni newydd yn eich ardal. Mae croeso i bawb, siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-gymraeg, ni chodir tâl am fynychu ein grwpiau. Grwpiau tymor ysgol yn unig yw'r rhain, noder na chodir tâl am fynychu ein grwpiau.
Ar ôl mynychu ein grwpiau anogir rhieni i fynd draw i’w grŵp Ti a Fi lleol cyn cofrestru’r plentyn yn y Cylch Meithrin lleol.
Mae ein sesiynau wedi ei anelu at rieni a phlant bach cyn ysgol ac yn gyfle i ti glosio at y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a gwneud ffrindiau newydd.
Cei gyfle i ddod yn gyfarwydd gyda rhigymau Cymraeg syml i ganu gyda dy fabi, dysgu geirfa syml a dod ar draws llyfrau bwrdd Cymraeg a dwyieithog ac apiau defnyddiol i ti a dy fabi.
Os wyt am ddysgu Cymraeg o’r newydd neu angen codi dy hyder, mae modd dy gyfeirio draw at gwrs Cymraeg i’r Teulu.
Clwb misol hwyliog ar gyfer teuluoedd Cymraeg i blant yw Clwb Doti a Fi.
Cei gyfle am stori a chân, gwneud gweithgaredd gyda dy fabi a chymdeithasu â rhieni newydd.
Byddi hefyd yn dod i gyswllt gyda phartneriaid Cymraeg a blynyddoedd cynnar lleol i ti e.e. dy Fenter Iaith, Canolfan Dysgu Cymraeg, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ag eraill.
Am fwy o wybodaeth am grwpiau Cymraeg i Blant yn eich ardal cliciwch ar y linciau facebook isod neu cysylltwch gyda’ch Swyddog Cymraeg i Blant lleol:
Facebook.com/Cymraeg i Blant… (Tudalen cenedlaethol)
Facebook Cymraeg i Blant Casnewydd
Blaenau Gwent
Merthyr
Caerdydd
Gogledd Powys
De Powys
Penfro
Rhondda Cynon Taf
Caerffili
Penybont
Abertawe/CNPT
Sir Gâr
Conwy
Bro Morgannwg
Môn
Arfon
Dwyfor
Meirionnydd
Wrecsam
Dinbych
Sir y Fflint
Ceredigion
Mynwy
Torfaen