Ddydd Gwener 5ed o Orffennaf cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo arbennig yng Ngwesty’r Village, Abertawe er mwyn cyflwyno tystysgrifau ym maes Gofal Plant i 85 o ddisgyblion ysgol uwchradd sy’n rhan o Gynllun Ysgolion Cam wrth Gam a reolir gan Mudiad Meithrin.
Teithiodd dros 180 o ffrindiau a theuluoedd y disgyblion llwyddiannus o bob rhan o Gymru i fod yn bresennol yn yr achlysur arbennig hwn.
Ers dechrau cynnig y gwasanaeth arbenigol yma i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2006, mae dros 1,200 o ddisgyblion wedi cymhwyso ym maes gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Eleni mae 12 ysgol wedi bod yn rhan o gynllun hyfforddi Cam wrth Gam, sy’n cynnig cyrsiau i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.
Cynigir cwrs Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg Plant a chwrs Diploma Lefel 2 mewn Gofal Dysgu a Datblygiad Plant ynghyd â chwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a chwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. CACHE yw’r corff dyfarnu sy’n achredu’r holl gyrsiau yma.
Cafodd y tystysgrifau eu cyflwyno i’r disgyblion gan yr actor Carwyn Glyn, sy’n adnabyddus am chwarae rhan DJ yn y gyfres deledu Pobol y Cwm.
Ymysg y siaradwyr gwadd fu’n annerch y gynulleidfa bydd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, Karina Poultney-Shaw, Arbenigwr Pwnc, CACHE, a Natasha Jones cyn-fyfyrwraig.
Eleni am y tro cyntaf penderfynwyd anrhydeddu ‘Dysgwr y Flwyddyn’. Roedd enillydd ar gyfer pob un o’r pedwar cwrs yn ogystal ag un enillydd Cenedlaethol, sef Nathan Davies (Ysgol Gyfun Maes-y-Gwendraeth).
Noddwyd y gystadleuaeth hon gan CACHE.
Dywedodd Eunice Jones, Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol y Mudiad:
“Mae Cam wrth Gam yn cydweithio’n agos gyda phenaethiaid ac awdurdodau lleol er mwyn cynnig rhaglenni hyfforddi sy’n diwallu anghenion ysgolion a’r gymuned yn y ffordd orau. Mae tiwtoriaid, aseswyr a dilyswyr sy’n meddu ar brofiad a chymwysterau priodol, yn darparu amrywiaeth sydd wedi’u teilwra i anghenion unigol y dysgwr.
"Mae wedi bod yn bleser beirniadu cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ eleni a mynd allan i weld y bobl ifanc yma’n gweithio gyda phlant ar lawr gwlad gan ymarfer yr hyn maent wedi ei ddysgu yn y dosbarth.
“Mae 12 ysgol wedi bod yn rhan o’r cynllun eleni. Rydym newydd dderbyn y newyddion gwych ein bod wedi ein derbyn ar Gynllun TRAC yn ngogledd Cymru, ac ym mis Medi byddwn yn cynnig y ddarpariaeth i Ysgolion yr ardal hynny. Eisoes mae Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes wedi ymuno â’r cynllun ym mis Medi ”
Cyflwynodd Carwyn Glyn gwobrau Dysgwyr y Flwyddyn i:
Cwrs Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg Plant
Alyssa Thomas - Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur.
Cliciwch yma i weld clip fideo Alyssa
Cwrs Diploma Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Jessica Mclennan – Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Cliciwch yma i weld clip fideo Jessica
Cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Nathan Davies – Ysgol Gyfun Maes-y-Gwendraeth
Cliciwch yma i weld clip fideo Nathan
Cwrs Diploma Lefel 3 Estynedig mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Tyler Jones – Ysgol Gyfun Gymraeg Glantâf
Cliciwch yma i weld clip fideo Tyler
Yr enillydd ar draws y 4 cwrs oedd Nathan Davies – Ysgol Gyfun Maes-y-Gwendraeth. Dyma fe isod yn derbyn ei wobr gan Carwyn Glyn a Karina Poultney-Shaw. Cliciwch yma i weld clip fideo Nathan
Dyma fwy o luniau o ddysgwyr wedi iddynt dderbyn eu tystysgrifau:
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Ysgolion Bro Myrddin a Strade
Ysgolion Bryntawe a G?yr
Ysgolion Glantâf a Bro Edern
Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Ysgol Llangynwyd
Ysgol Bro Edern
Ysgol Gwynllyw
Ysgolion Bro Myrddin, Maes-y-Gwendraeth a Strade
Ysgol Bryntawe
Diploma Lefel 2 mewn Gofal Dysgu a Datblygiad Plant
Ysgolion Bro Myrddin a Maes-y-Gwendraeth
Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg Plant
Ysgol Ystalyfera Bro Dur
Darllenwch am Seremoni Wobrwyo Cam wrth Gam 2018 yma.