Beth yw Pwyllgor Rheoli Gwirfoddol?
Mae Pwyllgor Rheoli Gwirfoddol yn gasgliad o unigolion sy'n gweithio gyda'i gilydd i ymgymryd â rhedeg Cylch Meithrin yn y gymuned leol. Y pwyllgor yw cyflogwr staff y Cylch Meithrin a'r pwyllgor sydd â chyfrifoldeb cyfreithlon dros y Cylch Meithrin.
Mae'n cymryd egni, brwdfrydedd, gwaith caled ac amynedd i sicrhau llwyddiant Cylch Meithrin newydd. Dyna reswm arall dros gydweithio'n agos gyda gr?p o bobl sydd â'r un meddylfryd. Gallwch weithio ar y problemau gyda'ch gilydd, a hybu a chefnogi'ch gilydd.
Os ydych yn bwriadu sefydlu Cylch Meithrin newydd cysylltwch a'ch Swyddog Cefnogi lleol.
Mae canllawiau ar gael hefyd ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer sefydlu Pwyllgor Rheoli Gwirfoddol.
Y Camau Cyntaf
Y ffordd orau i ddechrau yw casglu at ei gilydd nifer fach o bobl sy'n rhannu eich
diddordeb a siarad am beth fedrwch chi wneud. Hyd yn oed os nad ydynt eisiau bod
yn rhan hir dymor, efallai y byddant yn fodlon cyfrannu syniadau a phrofiad yn y camau
cyntaf.
Sut allwch chi ddod o hyd i bobl sydd â diddordeb, os nad ydych yn eu hadnabod?
- Gallwch geisio gofyn i weithwyr cymunedol, athrawon ysgol neu unrhyw un arall sy'n cwrdd â llawer o bobl yn y gymuned. Gofynnwch iddynt a ydynt yn adnabod rhywun a fyddai'n dangos diddordeb yn eich syniadau.
- Gallwch hefyd arddangos hysbysebion mewn swyddfeydd post, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, mannau addoli neu unrhyw le arall sydd â llawer o bobl e.e. siopau, meddygfeydd, a pheidiwch anghofio gwefannau lleol. Dylai'r hysbysebion esbonio beth ydych eisiau gwneud, a gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â chi.
- Os ydych eisiau cyrraedd cynulleidfa ehangach, ysgrifennwch at eich papurau lleol. Amlinellwch eich prosiect neu'ch bwriadau, a rhowch enw cyswllt, cyfeiriad a rhif ffôn. Efallai y byddant yn printio rhywbeth yn rhad ac am ddim.
- Gall eich Cyngor Gwirfoddol Sirol roi cysylltiadau defnyddiol i chi ac o bosib peth cyhoeddusrwydd. Mae ganddyn nhw hefyd restr o bobl sydd yn edrych am waith gwirfoddol. I weld manylion cyswllt eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol, cliciwch yma
Y Cyfarfod cyntaf
Fel arfer mae'n syniad da i gynnal cyfarfod agored i lansio'r pwyllgor newydd. I baratoi:
- Cysylltwch â'r papurau a'r gorsafoedd radio lleol.
- Rhowch wahoddiad i gynghorwyr lleol, eich Aelod Cynulliad a'ch Aelod Seneddol.
- Os ydych eisiau i'r gr?p ddenu pobl o bob adran o'r gymuned, rhowch wahoddiad i gynrychiolwyr gwahanol grwpiau i gyfrannu syniadau yn y cyfarfod cyntaf. Gwell cael cynrychiolaeth o'r cychwyn cyntaf.
Yn ogystal â'r bobl sy'n rhan ohono yn barod meddyliwch am wahodd:
- Eich Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin lleol
- Unrhyw un sy'n dangos diddordeb mewn helpu
- Mudiadau eraill sy'n gweithio mewn maes tebyg (e.e. Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol Gymraeg leol, Menter Iaith, Clybiau Plant Cymru )
- Mudiadau sy'n gweithio gyda grwpiau a chymunedau penodol
- Staff allweddol yr awdurdod lleol (e.e. Tim Gofal Plant, Dechrau'n Deg, Ymwelwyr Iechyd)
- Cynrychiolydd o'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol
Gall y cyfarfod fod yn ffurfiol neu'n anffurfiol ond dylech gael strwythur ac agenda. Bydd yn gyfle i chi:
- esbonio beth sydd gennych mewn golwg
- gwneud neu gryfhau cysylltiadau defnyddiol
- chwilio am gyhoeddusrwydd
- ddenu gwirfoddolwyr
- darganfod sut mae eraill yn gweld eich syniadau (Mae'n werth nodi'r pwyntiau a wneir gan bobl neu ysgrifennu cofnodion ffurfiol.)
Dylai'r bobl hynny sydd eisiau bod yn rhan ffurfiol o'r Cylch Meithrin gwrdd i ffurfio pwyllgor rheoli a ffurfio cyfansoddiad. Bydd angen penderfynu ar strwythur cyfreithiol i'r pwyllgor. Darllenwch mwy o wybodaeth am strwythurau cyfreithiol pwyllgor Cylch Meithrin yma.
Mae 'na amrywiaeth o adnoddau marchnata i'ch cynorthwyo gyda hyrwyddo a hysbysebu'r Cylch Meithrin neu Ti a Fi.