Os hoffech roi rhodd ariannol i Mudiad Meithrin yna gallwch wneud hynny drwy'r dulliau isod:
Ar Lein
Gallwch gyfrannu ar lein drwy glicio ar y linc isod, sydd yn mynd a chi i wefan Justgiving. Yn anffodus nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Drwy'r post
Gallwch ddewis anfon siec (yn daladwy i Mudiad Meithrin) yn y post at Nerys Fychan, Swyddog Digwyddiadau Nawdd a Chodi Arian i’r cyfeiriad isod neu
Nerys Fychan,
Mudiad Meithrin,
Canolfan Integredig,
Boulevard de Saint-Brieuc,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 1PD
Drwy neges destun
Os hoffech gefnogi gwaith Mudiad Meithrin mewn ffordd syml a chyflym, yna gyrrwch neges destun i 70070 yn nodi DOTI15 £5 (neu unrhyw swm arall yr hoffech gyfrannu).
Cofiwch fod modd i ni hawlio cymorth rodd ar bob rhodd y cawn felly os ydych chi'n dreth dalwr, rhowch eich enw llawn a chyfeiriad yn yr amlen gyda'r siec.
Gall hyn olygu ein bod yn gallu hawlio 25c am bob £1 yr ydych yn ei roi i ni.
Diolch yn fawr