Mae nifer cynyddol o bobl yn dewis gadael rhodd ariannol i elusennau yn eu hewyllys. Os taw eich dymuniad chi yw gadael rhodd i’r Mudiad, bydd ei werth yn cael ei dynnu o'ch ystâd (eich arian, eiddo ac adeiladau) cyn i’r Dreth Etifeddiaeth gael ei chyfrifo.
Sut fath o rodd ydwi'n gallu ei adael mewn ewyllys?
Gallwch naill ai adael
1. Swm penodol o arian
2. Rhan o’ch ystâd/ystâd gyfan unwaith mae’r rhoddion eraill wedi eu dosbarthu
3. Gadael eitem benodol e.e. gemwaith neu waith Celf
Gallwch wneud hyn drwy eich ewyllys, neu drwy ddatganiad i'r ysgutorion neu gynrychiolwyr personol gan nodi cyfarwyddiadau ynghylch sut yr hoffech i'ch etifeddiaeth gael ei dosbarthu. Os ydych yn gadael arian i’r Mudiad, nodwch yn glir fanylion Mudiad Meithrin sef
Enw Llawn - Mudiad Meithrin
Prif Swyddfa - Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, SY23 1PD
Rhif Elusen - 1022320
Gallwch gael cyngor annibynnol am ddim ynghylch gwneud ewyllys gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth ac Age UK.
Mae penderfynu rhoi rhodd mewn ewyllys yn benderfyniad pwysig iawn. Os hoffech drafod gadael rhodd i Mudiad Meithrin yn eich ewyllys yna cysylltwch â:
Nerys Fychan,
Swyddog Digwyddiadau, Nawdd a Chodi Arian
01970 639639 neu drwy ebost.