Mae’n ofynnol i bwyllgor neu fwrdd rheoli pob lleoliad Blynyddoedd Cynnar sicrhau ei fod wedi mabwysiadu ystod o bolisïau sy’n angenrheidiol i waith y Cylch Meithrin neu Feithrinfa Ddydd, ac sy’n ddisgwyliedig gan Arolygiaeth Gofal Cymru / AGC.
Mae Mudiad Meithrin wedi llunio templedi polisïau i hwyluso’r gwaith hyn i’r Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd unigol. Disgwylir i’r lleoliadau personoleiddio ac addasu’r templedi isod yn ôl anghenion penodol y lleoliad cyn eu mabwysiadu. Cofiwch gysylltu gyda’ch Swyddog Cefnogi lleol am gyngor ac arweiniad yn ôl yr angen.
Dyma restr o'r polisiau sydd angen ar bob Cylch Meithrin:
- Amddiffyn Plant
- Amddiffyn rhag yr haul
- Asthma
- Bwyta’n iach a chadw’n heini
- Cadw plant rhag crwydro / plentyn ar goll
- Canmol a chwyno
- Chwythu'r chwiban
- Cludo a throsglwyddo plant
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Cyfrinachedd a diogelu data
- Cynhwysiant a chyfle cyfartal
- Delweddau digidol (lluniau a delweddau)
- Polisi Derbyn
- Di-fwg
- E-ddiogelwch
- Gadael a chasglu plant
- Gweithio ar eich pen eich hun
- Yr Iaith Gymraeg
- Iechyd diogelwch a lles
- Meddyginieth
- Newid clwt/cewyn
- Salwch, afiechydon heintus a damweinion
- Staffio
- Ymddygiad cadarnhaol
Mae templedi'r polisiau cyflawn ar gael i aelodau ar fewnrwyd Mudiad Meithrin.