Gwaith Polisi
Mae Mudiad Meithrin yn gweithio ar draws sawl maes polisi. Ceir gwybodaeth bellach o dan y penawdau isod. Weithiau byddwn yn ymateb i ymgynghoriadau polisi tu allan i’r meysydd hyn. Gellir dod o hyd i’r ymatebion hyn o dan ‘Ymatebion i ymgynghoriadau’r gorffennol’.
AGC Datganiadau Hunanasesu Gwasanaeth
Yn gynnar yn 2020, bydd AGC yn gofyn i ddarparwyr gofal plant a chwarae ddefnyddio eu cyfrifon ar-lein i gyflwyno Datganiadau Hunanasesu Gwasanaeth. Bydd hyn yn galluogi AGC i gasglu a diweddaru’r wybodaeth sydd ganddyn nhw am wasanaethau gofal plant a chwarae. Yn ogystal, gofynnir i ddarparwyr gyflwyno adolygiad o ansawdd y gofal, yn disgrifio eu hasesiad eu hunain o ansawdd y gofal a ddarperir ac yn egluro’r ffordd y maent yn monitro eu perfformiad eu hunain.
Ym mis Tachwedd 2019 byddwch yn derbyn llythyr gan AGC gyda gwybodaeth bwysig am AGC ar-lein. Mae'r llythyr hwn yn nodi’r camau sydd angen i chi gymryd i i wneud eich cyfrif ar-lein yn weithredol.
Rhaid i chi wneud hyn, hyd yn oed os ydych wedi creu cyfrif ar-lein yn flaenorol.
Bydd eich cyfrif ar-lein yn ei gwneud yn llawer haws i chi weithio gydag AGC, trwy ddarparu un ffordd syml ac effeithiol o gyflwyno gwybodaeth am unrhyw newidiadau i'ch gwasanaeth.
Er mwyn gwneud eich cyfrif ar-lein yn weithredol, cadwch lygad am eich llythyr a gweithredwch ar y canllawiau o fewn yr amserlen penodol. Bydd Mudiad Meithrin yn darparu rhagor o wybodaeth a diweddariad ar hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae AGC wedi rhannu gwybodaeth bellach a chwestiynau cyffredin ar eu gwefan.
Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar (2017)
Mae Cynllun y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar yn egluro uchelgais Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweithlu gofal plant a chwarae a blynyddoedd cynnar medrus iawn sy’n cael ei gydnabod fel proffesiwn uchel ei barch a gyrfa o ddewis, ac un y mae cymdeithas yn ei werthfawrogi am ei gyfraniad i ddysgu a datblygiad ein plant.
Fframwaith Canlyniadau’r Blynyddoedd Cynnar
Bwriad Fframwaith Canlyniadau’r Blynyddoedd Cynnar yw:
- darparu fframwaith a fydd yn cynorthwyo cydgysylltiad gwaith gwahanol adrannau a rhanddeiliaid allweddol o ran y blynyddoedd cynnar
- sicrhau bod polisïau a rhaglenni blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
- Cynorthwyo i adnabod gwelliannau, a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y byrdymor, y tymor canol a’r hirdymor
- Cynorthwyo unigolion ar draws y sector, ar wahanol lefelau, i ddeall y cyfraniad maent yn ei wneud i gyflawni’r canlyniadau
- cefnogi gwaith cynllunio a gwerthuso yn lleol.
O ddydd Llun 15 Ionawr 2018, newidiodd enw yr Arolygiaeth o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Os oes gan ddarparwyr neu bartneriaid gofal unrhyw waith papur neu ddogfennau ag AGGCC arnynt, byddant yn parhau i fod yn ddilys, ond bydd ffurflenni ag arweiniad yn cynnwys yr enw newydd dros yr wythnosau i ddod.
Manylion cyswllt AGC
Newidiadau i ddod i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (Ionawr 2018)
Bydd newidiadau i ofynion staff o ran cymwysterau o fis Medi 2021. Mae'r newidiadau'n ymwneud â Safonau Gofal Dydd 13.6 (GD) a 13.7 (GD), o ran y cymwysterau gofynnol ar gyfer Personau â Gofal a staff nad ydynt yn goruchwylio mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae a reoleiddir ar gyfer plant rhwng 0 a 12 mlwydd oed.
Mae’r cyfnod arwain a bennwyd i weithluoedd gofal plant a chwarae ar gyfer cyrraedd y cymwysterau chwarae gofynnol yn dod i ben ym mis Medi 2021.
Mae rhagor o fanylion ar gael restr Gofal Cymdeithasol Cymru o’r cymwysterau gofynnol i weithio mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a rhestr SkillsActive o’r cymwysterau gofynnol i weithio yn y sector gwaith chwarae yng Nghymru.
Gall darparwyr weld y cylchlythyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni.
'Diwedd y gân yw'r geiniog’ meddai’r dywediad ac, heb os, ble bu gofal plant dan drafodaeth yn sicr mae hon yn gri gyffredin gan rieni/gofalwyr ar y naill law a gan ddarparwyr gofal plant fel Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.
Testun hapusrwydd felly oedd deall y byddai Llywodraeth Cymru’n cyflwyno 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i blant 3 a 4 mlwydd oed i rhieni sy’n gweithio isafswm o 16 awr yr wythnos fel rhan o’i gynlluniau cyn 2021 (a rhan fwyaf o’r gwrth-bleidiau’n gefnogol).
Datganiad gan Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
'Yn ddiweddar cydnabu'r gwerthusiad gan Arad o'r flwyddyn gyntaf o weithredu'r cynnig yn gynnar fod y “gyfradd dâl ar gyfer rhai darparwyr sy’n cynnig Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen yn is na’r gyfradd i ddarparu gofal plant a ariennir gan y Cynnig.” Roedd hyn yn atgyfnerthu canfyddiadau Arolwg Blynyddol Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, a nododd fod cyflwyno Cynnig Cyfnod Sylfaen sy'n gynaliadwy yn bryder sylweddol o fewn y sector.'
Fel ymateb i hyn mae’r Llywodraeth eisiau deall yr effaith y bydd cyfradd gyllido wahanol yn ei chael ar ddyfodol addysg y Cyfnod Sylfaen, ac ar weithredu'r Cynllun Gofal Plant. Felly, mae'n fwriad ganddynt i gynnal prosiect peilot, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, er mwyn profi effaith cyfradd ariannu gyson ar gyfer addysg gynnar a gofal plant. Bydd y cynllun peilot yn cael ei redeg ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i blant 3 oed yn nhymor y gwanwyn a thymor yr haf 2019. Bydd gwerthusiad yn cael ei wneud tra bo'r prosiect peilot yn mynd rhagddo, ac rydym yn disgwyl adroddiad ar y casgliadau yn ystod tymor y gaeaf 2019.
Heb fod yn rhan o’r cynllun hyd yma? Dyma 10 “top tip” felly i leoliadau a darparwyr gofal plant ar draws Cymru:
Mae’r cynllun ar gael erbyn hyn i rieni sy’n gymwys ar draws Ynys Môn, Gwent, Caerffili, Caerdydd, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam. Mae ar gael mewn rhai ardaloedd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a bydd yn cael ei ymestyn ymhellach yn rhai ardaloedd ym Mhowys o fis Ionawr 2019 ymlaen ac ym Mhen-y-bont, Sir Benfro a Bro Morgannwg o fis Ebrill 2019 ymlaen. Os ydych o fewn un o’r ardaloedd hyn, beth am siarad gyda chynrychiolydd o Mudiad Meithrin i dderbyn mwy o arweiniad a chefnogaeth?
2. Cadwch lygad am ddatblygiadau perthnasol ar y we, Trydar ac ar Facebook. Mynychwch gyfarfodydd neu fforymau fydd yn cael eu trefnu’n lleol gan Mudiad Meithrin, gan ‘Cwlwm’ neu gan Awdurdod Lleol.
3. Sicrhewch fod gennych gynllun busnes mewn lle h.y. yn fras eich bod yn adnabod eich incwm a’ch gwariant misol.Cysylltwch a’ch Swyddog Cefnogi am gefnogaeth bellach.
4. Mae codi arian yn realiti i fwyafrif o leoliadau gofal plant ac mae angen cynllun o ddigwyddiadau codi arian rheolaidd. Mae llwyth o syniadau ar gael ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol – beth mae lleoliadau eraill mewn ardaloedd eraill o Gymru yn ei wneud?
5. Cyfrannwch unrhyw sylwadau i Lywodraeth Cymru trwy ymgyrch #TrafodGofalPlant (#TalkChildcare). Efallai fod gennych farn am y cynllun 10 awr presennol (neu gynllun ‘Dechrau’n Deg’). Helpwch y Llywodraeth i gynllunio hyn yn gywir wrth i’r cynllun esblygu.
6. Meddyliwch am ymgeisio am grant Loteri ‘Arian i Bawb’ i wella adnoddau’r lleoliad. Mae ffynonellau eraill ar gael hefyd (The Health Lottery, Postcode Lottery, Aviva Community Fund, The Coalfields Regeneration Trust ayyb).
7. Gwnewch yn siŵr fod eich staff yn cael pob cyfle i ennill cymhwyster neu i uwch-sgilio gyda chyfleon lleol a chenedlaethol. Mae lleoliad sy’n buddsoddi yn sgiliau ei staff yn leoliad arobryn!
8. Mynnwch gefnogaeth eich cymuned (wele pwynt 4) i godi arian, i nabod eich cynulleidfa, i hyrwyddo’ch gwaith
9. A ydych yn pontio’n llwyddianus gyda’ch ysgolion lleol? Hynny yw, ydy’r berthynas rhwng eich lleoliad a’r ysgol yn un dda? Mae nifer o esiamplau o leoliadau gofal plant sy’n cynnig gwasanaethau gwahanol fel gofal cofleidiol ar y cyd gydag ysgolion cyfagos.
10. Cadwch mewn cysylltiad! Dilynwch ni ar ein cyfrifon Facebook a Trydar a defnyddiwch arbenigedd a gwybodaeth ein staff!
Am wybodaeth i ddarparwyr gweler
Mae diddordeb gyda ni yn eich profiadau a’ch syniadau chi. Cysylltwch ag Eleri Griffiths i drafod ymgynghoriadau cyfredol.
Cod Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae’r Mudiad Meithrin am ymateb i’r Cod Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r Cod yn cynnwys rheoliadau sy’n berthnasol i Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd. Nod y ddeddf yw gwella cefnogaeth i blant gydag ADY a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.
Mae dogfennau ymgynghori, gan gynnwys un hawdd i’w ddeall, ar gael i’w ddarllen yma:
Bydd Mudiad Meithrin yn ymateb erbyn canol Mawrth 2019.
Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer gofal plant a reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 mlynedd.
Mae Llywodraeth Cymru a Cwlwm yn dymuno casglu barn darpariaethau gofal plant a darparwyr chwarae ar gyflwyniad y Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
Ewch i'r holiadur https://www.surveymonkey.co.uk/r/Y6R7WJL
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw bydd ‘na filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae ganddynt dair thema strategol ar gyfer gwireddu’r weledigaeth hon.
1.Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
2.Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
3.Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
Uchelgais y Llywodraeth yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a’r nifer sy’n ei siarad gan ymrwymo i weithio tuag at gael miliwn o bobl yn siarad y Gymraeg erbyn 2050 ac i barhau i annog mwy o bobl i’w defnyddio a’i siarad yn eu bywydau bob dydd.
Mae’r Mudiad Meithrin wedi ymateb i sawl cynnig polisi ynglŷn â’r iaith Gymraeg a gellir gweld y rhain o dan yr adran Ymgynghoriadau’r Gorffennol.
Meithrin Miliwn ymateb Mudiad Meithrin i Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr
I weld copi o'r Newyddlen Bolisi ddiweddaraf cliciwch isod.
Dyma restr o ymatebion y Mudiad Meithrin i ymgynghoriadau’r gorffennol o 2017 hyd heddiw. Am gopi o’r ymatebion rhestrir isod neu os hoffech weld ein hymatebion cyn 2017 cysylltwch ag eleri.griffiths@meithrin.cymru
2018
Bil Cyllido Gofal Plant
Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant Canllawiau arferion gorau
Ymateb i’r Adolygiad Brys CSGA
Cyllido Ysgolion yng Nghymru - Ymateb Mudiad Meithrin
Cynnig Deddfwriaethol i Ddileu Amddiffyniad Cosb Resymol
Perthynas y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol
Brexit a’n Tir: Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru
Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau mewn Addysg
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Ymchwiliad i gefnogi a hybu’r Gymraeg
2017
Ymateb Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc - Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ymateb i Ddogfen Ymgynghori Papur Gwyn Taro'r Cydbwysedd
Ymateb i Adolygiad Annibynnol o S4C
Cais Tystiolaeth Paratoi Bil y Gymraeg
Ymateb Mudiad Meithrin 1000 Diwrnod 1af Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg
Ymateb - Cwricwlwm Cymraeg i Oedolion
Ymateb - Canllawiau Statudol mewn perthynas â Rhan 7 o’r Ddeddf, Ymdrin ag Achosion Amddiffyn Plant sy'n Wynebu Risg
Sylwadau ar Ymgynghoriad y Papur Gwyn: Diwygio llywodraeth Leol: Cadernid ac adnewyddiad.
Meithrin Miliwn 2050