Mae’n ofynnol i bwyllgor neu fwrdd rheoli pob lleoliad Blynyddoedd Cynnar sicrhau ei fod wedi mabwysiadu ystod o bolisïau sy’n angenrheidiol i waith y Cylch Meithrin neu Feithrinfa Ddydd, ac sy’n ddisgwyliedig gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Rydym wedi llunio templedi polisïau i hwyluso’r gwaith hyn i’r Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd unigol.  Disgwylir i’r lleoliadau personoleiddio ac addasu’r templedi yn ôl anghenion penodol y lleoliad cyn eu mabwysiadu. Cofiwch gysylltu gyda’ch Swyddog Cefnogi lleol am gyngor ac arweiniad yn ôl yr angen.

Mae templedi’r polisiau cyflawn ar gael i aelodau ar ein mewnrwyd.

Polisi Iaith Mudiad Meithrin

Mae pob Cylch Meithrin yn derbyn a mabwysiadu Polisi Iaith Mudiad Meithrin. Mae derbyn a gweithredu y polisi hwn hwn yn amod o fod yn aelod gyda Mudiad Meithrin. Ni chaniateir newid unrhyw elfen o’r polisi hwn.