Er mwyn derbyn ystod eang o wasanaethau a chefnogaeth, gan gynnwys gwasanaeth Swyddog Cefnogi, telerau yswiriant ffafriol a grant mae’n rhaid i’r Cylch Meithrin ymaelodi â Mudiad Meithrin.
(Trwy ymaelodi â’r Mudiad mae’r Cylch Meithrin yn cael gwerth £7.5 miliwn o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Yr yswiriant yma fydd yn diogelu’r Cylch rhag unrhyw achos a gymerir yn ei erbyn os yw aelod o staff neu aelod o’r cyhoedd wedi cael niwed neu salwch o ganlyniad i waith y Cylch. Rydym yn annog pob Cylch i gymryd yr yswiriant sy'n diogelu rhag twyll yn ychwanegol i'r yswiriant sylfaenol.)
Bydd gan Gylch Meithrin sy’n aelod llawn o Mudiad Meithrin hawl i un bleidlais yn y Cyfarfod Blynyddol Cenedlaethol ac yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Sir. Mae rhestr lawn o’r gwasanaethau a’r adnoddau yn cael eu cynnwys o fewn y Pecyn Cofrestru yn flynyddol.
Mae disgwyl i bob Cylch Meithrin gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Plant / AGC a chydymffurfio â Pholisi Iaith Mudiad Meithrin.
Cysylltwch â'ch Swyddog Cefnogi lleol i drafod pa lefel gwasanaeth fydd orau i chi.