Pam Dewis Camau Bach?
Ni yw’r unig feithrinfa ddydd yn Aberystwyth sy’n cynnig gofal ac addysg blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn darparu gofal ac ansawdd o safon ac mewn lleoliad hwylus ar Boulevard De Saint Brieuc, rhwng yr orsaf heddlu ac Adeiladau'r Llywodraeth. Rydym hefyd yn cynnig prydau poeth a byrbrydau iachus fel rhan o'r gwasanaeth er mwyn hwyluso'r gwaith i rieni.
Dim problem! Mae Camau Bach yn croesawu pob plentyn waeth beth yw ei gefndir ieithyddol, hil, lliw neu anghenion addysgol. O fewn dim bydd eich plentyn wedi dysgu Cymraeg yn naturiol wrth chwarae gyda’i ffrindiau bach newydd.
Mae’r plant y feithrinfa wrth eu boddau yn mynd i’r ystafell hon gan ei bod yn cynnwys adnoddau arbennig er mwyn datblygu eu synhwyrau.
Mae’r plant yn mwynhau garddio a thyfu blodau a llysiau gan hybu eu chwilfrydedd a’u gwerthfawrogiad o fyd natur.
Caiff pob plentyn y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fydd yn hybu pob agwedd o’i ddatblygiad. Mae gan Camau Bach amrywiaeth eang o deganau, llyfrau, deunyddiau crefft ac arlunio, cyfleusterau chwarae dwr a thywod ynghyd â llawer o offer sy’n annog chwarae dychmygus.
Mae Camau Bach yn cynnig gofal cofleidiol o’r radd flaenaf i blant sy’n mynychu ysgol yn rhan amser e.e. os yw eich plentyn yn mynd i’r ysgol am fore yn unig yna gall Camau Bach gasglu eich plentyn o’r ysgol i’r feithrinfa erbyn sesiwn y p’nawn, neu os mai yn y prynhawniau’n unig mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol, gall eich plentyn ddod i’r feithrinfa am sesiwn yn y bore a gall y feithrinfa fynd â’ch plentyn i’r ysgol erbyn y pnawn.
Trefnir cludiant i neu o’r ysgolion cynradd canlynol yn Aberystwyth
- Ysgol Gymraeg Aberystwyth
- Ysgol Plas Crug
- Prisiau gwahanol yn ôl oedran i blant o dan ddwy oed ac i blant dros ddwy oed
- Sesiynau rhatach os yw plentyn yn gorffen am 4.00 neu am 5.00
- Sesiynau diwrnod llawn, neu sesiynau bore neu brynhawn yn unig.
- Gostyngiad os yw eich plentyn yn mynychu’r feithrinfa’n llawn amser
“Mae ein tair merch wedi elwa’n fawr drwy fynychu’r feithrinfa dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n grêt gallu mynd i’r gwaith gan wybod fod y plant nid yn unig yn ddiogel ond yn hapus ac yn mwynhau dysgu trwy’r holl brofiadau a gynigir iddynt yma. Diolch i’r staff am yr holl waith caled.”
“Gan fy mod i’n byw yn Aberystwyth ond teithio o'r gwaith sydd ugain milltir i ffwrdd mae’r Clwb ar ôl ysgol yn wych! Dwi’n mynd â’r plentyn i’r ysgol yn bore ac yna yn ei gasglu o’r feithrinfa ar ddiwedd y dydd. Byddai’n anodd iawn i fy mhlentyn fynychu’r ysgol yn Aberystwyth oni bai am y gwasanaeth yma.”