Nod Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Egwyddorion
Mae Mudiad Meithrin yn credu:
- bod caffael yr iaith Gymraeg o fantais i blant.
I’r perwyl hwn byddwn yn trefnu cymaint o oriau cyswllt â’r iaith Gymraeg â phosibl, ac yn defnyddio’r Gymraeg yn unig yn ein darpariaethau.
- y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael mynediad i wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar o fewn cyrraedd hwylus i’w gartref.
Byddwn yn ceisio sefydlu darpariaethau addas i gwrdd â’r angen yn lleol a cheisio sicrhau cefnogaeth ychwanegol i blant o gefndiroedd difreintiedig.
- bod dilyniant addysg Gymraeg yn hanfodol i bob plentyn sy’n mynychu ein darpariaethau.
I’r perwyl hwn, rydym yn galw am ddilyniant i addysg Gymraeg o fewn cyrraedd hwylus i gartref pob plentyn.
- bod chwarae yn sylfaenol i ddatblygiad plant yn gorfforol, yn emosiynol yn ieithyddol, yn gymdeithasol, ac yn ddeallusol.
Byddwn yn sicrhau pob cyfle posibl ar gyfer dysgu trwy chwarae.
- bod plant, waeth beth fo’u hangen, yn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd dda.
Byddwn yn croesawu plant ag anghenion ychwanegol i’n darpariaethau.
- bod y teulu yn sylfaen i ddatblygiad plant.
Byddwn yn sicrhau pob cyfle i deuluoedd gefnogi profiadau blynyddoedd cynnar eu plant, ac yn cynnig cefnogaeth ieithyddol a chymdeithasol i deuluoedd trwy weithgareddau ein darpariaethau.
- bod hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant a Deddf Plant 1989 yn holl bwysig.
I’r perwyl hwn bydd gan blant yr hawl i ddisgwyl i bob oedolyn sydd â chyfrifoldeb drostynt eu hamddiffyn rhag camdriniaeth o bob math.