Cylch Meithrin Eco Tywi yng Nghaerfyrddin yw’r Cylch Meithrin di-blastig cyntaf yng Nghymru o dan adain Mudiad Meithrin. Heblaw am ddeunyddiau amddiffyn personol sy’n ofynnol yn sgil gofynion y pandemig, nid oes yr un defnydd o blastig untro ynddo, ac mae’r rhan fwyaf o’r teganau wedi eu gwneud allan o bren, carreg neu wedi eu hailgylchu. Mae’r cewynnau a phethau golchi yn ddi-blastig, mae’r llestri wedi’u gwneud o fambŵ, a maent yn ailgylchu cymaint â phosib.
Mae mwy o newyddion da hefyd. Ar ôl gwneud cais llwyddiannus, mae Cylch Meithrin Eco Tywi wedi cael eu gwobrwyo gan 'Cadw Cymru'n Daclus' a byddent yn derbyn llu o adnoddau garddio, gan gynnwys gwely er mwyn tyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau eu hunain. Bydd hyn yn gyfle gwych i ddysgu'r plant am y pwysigrwydd o dyfu llysiau a ffrwythau i fod yn hunangynhaliol.
Lleucu Angharad Edwards yw Arweinydd Cylch Meithrin Eco Tywi sydd wedi ei leoli yn yn Clwb Pêl-droed yng Nghaerfyrddin. Mae Lleucu wedi cwblhau gradd Addysg Blynyddoedd Cynnar ac yn gweithio tuag at ei Thystysgrif Lefel 5 Gofal Plant. Ers iddi raddio mae wedi gweithio ym Meithrinfa'r Gamfa Wen, wedi bod yn gynorthwyydd dosbarth mewn nifer o ysgolion cynradd ac yn Swyddog Datblygu cynorthwyol gyda’r Urdd. Mae hefyd yn cynorthwyo yn Ysgol Sul y Priordy yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Lleucu:
“Mae’n hyfryd gallu rhoi’r cyfle i blant Caerfyrddin ddysgu byw bywyd cynaliadwy a di-blastig. Mae’n bwysig datblygu’r plant i fod yn hyrwyddwyr dros yr amgylchedd a does dim amheuaeth bod y plant yn mwynhau dysgu trwy chwarae mewn ffyrdd ecogyfeillgar.”
Ategodd Carole Williams, Swyddog Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin yn yr ardal:
“Mae’n hyfryd gweld y math yma o gylch yn ardal Sir Gaerfyrddin ac mae’n enghraifft wych i gylchoedd eraill y wlad.”
Mae Cylch Meithrin Eco Tywi wedi cofrestru gydag AGC ac yn darparu Gofal Cofleidiol. Maent hefyd wedi cofrestru gyda’r Cynnig Gofal Plant 30 Awr. Os oes gennych ddiddordeb dod â’ch plentyn i’r cylch neu eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Lleucu Edwards ar cmtywi@gmail.com. Mae gan y Cylch dudalen Facebook hefyd, sef Cylch Meithrin Tywi.