Mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi manylion llawn ein Seremoni Wobrwyo eleni. Oherwydd fod rheolau ymbellhau cymdeithasol yn parhau mewn grym, penderfynwyd cynnal Seremoni Gwobrwyo rhithiol eleni yn hytrach na’i chynnal yn Aberystwyth.
Mari Løvgreen fydd yn cyflwyno’r Seremoni gyfan, a bydd modd i bawb fod yn rhan o’r achlysur wrth wylio’r canlyniadau yn cael ei ffrydio’n fyw ar ein cyfryngau cymdeithasol am 8yh nos Sadwrn, 24ain Hydref. Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth ynghylch Covid-19, bydd pob llun a fideo a ddangosir yn ystod y Seremoni yn rhai oedd wedi cael eu tynnu cyn cyfnod y pandemig.
Mae’r Seremoni Gwobrau yn cael ei chynnal yn flynyddol ac yn achlysur i gydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn ei ddarpariaethau. Eleni, torrwyd pob record o ran niferoedd gan i dros 450 o enwebiadau gael eu cyflwyno ar gyfer 11 categori; Ardal Tu Allan, Gwirfoddolwr, Arweinydd, Cylch Ti a Fi, Cynhwysiant, Cynorthwy-ydd, Dewin a Doti, Meithrinfa Ddydd, Cylch Meithrin, Phwyllgor a chynllun Cymraeg i Blant.
Mae ychydig o newid i’r drefn o ddyfarnu’r enillwyr i’r categori Cylch Meithrin y tro hwn – mae’r tri uchaf wedi cael eu dewis o bob 4 talaith yng Nghymru gydag enillydd ym mhob talaith, ac yna bydd un o’r enillwyr yma yn cael eu cyhoeddi fel enillydd cenedlaethol ar y noson.
Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Mae'r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i'n staff a'n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad. Cafodd bawb gyfle i enwebu unigolion o Gylch Meithrin; Cylch Ti a Fi neu feithrinfa ddydd am wobr mewn gwahanol gategorïau.”
Cyfarfu’r panel gwobrwyo yn ddigidol ar ddiwedd mis Mai a dewiswyd y tri uchaf ym mhob categori (gweler y wybodaeth isod).
Meddai Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Roedden ni’n gobeithio y byddai pobl yn manteisio ar y cyfle i enwebu cylch lleol neu feithrinfa sy’n haeddu cydnabyddiaeth ac rydym wedi gwirioni ein bod wedi derbyn cannoedd o enwebiadau! Mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”
Bydd modd i bawb wylio’r seremoni drwy fynd ar ein tudalen Facebook (/MudiadMeithrin) am 8yh nos Sadwrn, Hydref 24.