Ddydd Gwener 9 Awst am 2:00yp bydd Prosbectws cyrsiau Academi Mudiad Meithrin ar gyfer 2019-20 yn cael ei lansio ar stondin Mudiad Meithrin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yng nghwmni’r berfformwraig, Leisa Mererid.
Mae’r prosbectws hefyd ar gael yn ddigidol ac yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein a chyrsiau wyneb yn wyneb i dros 1,500 staff mewn Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a Meithrinfeydd Dydd ac i dros 220 o staff sy’n gweithio i’r Mudiad ei hun.
Mae Academi hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer cefnogi aelodau pwyllgorau rheoli’r Cylchoedd Meithrin a Cylchoedd Ti a Fi gyda’r nod o adnabod talent, datblygu dealltwriaeth a chynyddu gallu yn rhad ac am ddim i aelodau’r Mudiad.
Bydd y Prosbectws yn cynnig ystod o gyrsiau agored yn ystod y flwyddyn ar gyfer partneriaid yn ogystal, ynghyd â’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae’r cyrsiau a gynigir yn amrywio o rai sy’n delio â materion rheolaethol i syniadau ar gyfer datblygu creadigrwydd a chefnogi dysgu plant drwy chwarae.
Bydd y lansiad yn cynnwys sesiwn flasu un o’r cyrsiau, sef ‘Dotio ar Dewin a Doti’ gyda’r berfformwraig ac athrawes ioga, Leisa Mererid a fydd yn cynnig syniadau sut i ddefnyddio pyped Dewin a defnyddio’r corff fel ffordd o gyflwyno stori.
Dywedodd Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Datblygu a Dysgu Mudiad Meithrin:
“Mae cyrsiau craidd yn eu lle, ond un o fanteision a phrif nodweddion Academi yw’r gallu i ymateb i anghenion, gan ddarparu hyfforddiant yn ôl y galw ac i gwrdd â newidiadau a datblygiadau. Felly bydd cyrsiau newydd yn cael eu hychwanegu i’r prosbectws yn ystod y flwyddyn gan rannu gwybodaeth yn gyson gyda’n haelodau a’n partneriaid.”
Ymysg y cyrsiau a gynigir mae ‘Cyflwyno gwaith coed yn y Cyfnod Sylfaen’; ‘Sbarduno’ - cwrs i sbarduno gwyddonwyr y dyfodol’, ac ‘Awn am Dro cwrs i ddatblygu ymwybyddiaeth plant o’r byd o’u cwmpas.
Meddai Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Gwenllian Lansdown Davies:
“Mae Academi yn darparu cyfleoedd hollol newydd ac unigryw i weithlu a gwirfoddolwyr blynyddoedd cyfrwng Cymraeg, sef cymuned Mudiad Meithrin, ers iddo gael ei greu yn 2015 i ddatblygu ac uwchsgilio staff y blynyddoedd cynnar.”