Un o Lysgenhadon Mudiad Meithrin yw Shereen Williams (sy’n 35 oed) sy’n dod yn wreiddiol o Singapôr ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru gyda’i gŵr a dau o blant. Mae ei phlant Iesu (8) a Selyf (4) yn derbyn addysg Gymraeg trwy fynychu ysgol Gymraeg lleol. Cafodd Shereen addysg dra gwahanol yn Singapôr lle ceir 4 iaith swyddogol sef Maleieg, Mandarin, Tamileg a Saesneg.
Meddai Shereen:
“Roeddem yn siarad Saesneg a Maleieg adref. Yn Singapôr iaith y gweithle yw Saesneg ac yn yr ysgol byddech chi’n dysgu eich 2il iaith (a elwir y famiaith) a fyddai’n cael ei dewis yn ôl eich hil. Yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol, roedd yn rhaid ichi basio arholiad yn eich 2il iaith cyn symud ymlaen i gam nesaf eich addysg.”
Fe ymwelodd Shereen â Chymru am y tro cyntaf yn 2004 a dim ond bryd hynny y daeth i ddeall am fodolaeth yr iaith Gymraeg. Cyn yr ymweliad hwnnw, yr unig beth a wyddai am Gymru oedd mai hon oedd y wlad roedd Ian Rush a Ryan Giggs yn chwarae drosti.
Meddai Shereen:
“Yn ystod fy nheithiau mi gwrddes â Chymro a ddywedodd mwy wrthyf am yr iaith, y wlad a’i hanes. 11 mis yn ddiweddarach mi briodais y Cymro hwnnw a symud i fyw i Gymru yn barhaol ym mis Awst 2005.
Pan benderfynon ni gael plant, roeddem am iddynt gael enwau Cymraeg/Mwslimaidd h.y. enwau Cymraeg a adlewyrchai eu treftadaeth Islamaidd, felly cafodd fy ngŵr afael ar gopi o’r Beibl a’i astudio gan ddewis enwau’r proffwydi oedd yn perthyn i’r traddodiad Cristnogol a’r traddodiad Mwslimaidd. Yn y diwedd roedd gennym restr eithaf da o enwau bechgyn a merched ond fy ffefrynnau oedd Iesu/Esa a Selyf/Suleiman.”
Doedd ddewis anfon eu plant i Addysg Gymraeg ddim yn un anodd o gwbl iddynt yn ôl Shereen ac roedd e’n rhywbeth roedden nhw wedi penderfynu arno cyn cael plant. Ei phryder mwyaf oedd na fyddai’n gallu cefnogi’r plant wrth iddynt dderbyn eu haddysg am nad oedd hi’n siarad Cymraeg.
Eglurodd Shereen:
“Roedd fy ngŵr wedi siarad gyda phrifathro ysgol Gymraeg lleol a dywedodd wrtho na fyddai hynny’n broblem ac y bydden ni’n derbyn cefnogaeth fel teulu ar y daith hon. A dweud y gwir, yr ymateb hwnnw oedd yr union beth oedd ei angen arnaf i’m calonogi nad oedd hwn yn syniad mor wallgof â hynny!
Felly, unrhyw bryd y byddai gen i bryderon neu ofidion fe fyddwn i’n cysylltu â’r ysgol ac fe fyddai’r staff wastad yno i’m cefnogi. Mae’r teuluoedd sy’n dewis anfon eu plant ar y llwybr hwn wedi gwneud penderfyniad gweithredol i fynd ar y daith hon gyda staff yr ysgol ac mae’r ymdeimlad o fod yn rhan o’r un tîm yn amlwg, nid yn unig o ran yr addysg ond hefyd o ran y rhyngweithio gyda rhieni.”
Yn ôl Shereen y peth gorau am anfon eich plentyn i addysg Gymraeg yw gweld eich plentyn yn meistroli iaith newydd a gallu symud yn ôl a mlaen rhwng Saesneg a Chymraeg heb unrhyw ffwdan.
Ychwanegodd: “Yn sgil hyn gallwch helpu eich plentyn i amgyffred â’i hunaniaeth Gymreig gan ddod yn rhan o gymuned arall h.y. cymuned sy’n siarad Cymraeg – sy’n brofiad arbennig i allu gweld eich plant yn elwa o’r buddion hynny.
Mae’r Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd y teulu gan ei fod wedi agor y drws i nifer fawr o opsiynau cymdeithasu yn nhermau’r digwyddiadau, cyngherddau a gweithgareddau rydym yn eu mynychu fel teulu. Mae ‘na gymaint o ddarpariaeth ar gael yn y Gymraeg, gan gynnwys llyfrau a rhaglenni teledu a.y.y.b. - mae gennym ddigon o ddewis.
“Rwy’n cofio siopa yn Waterstones a dod o hyd i lyfr am Minecraft yn Gymraeg wnaeth fy nghynhyrfu’n llwyr! Rwy’n defnyddio pytiau o Gymraeg gyda’r bechgyn ond mae fy mab hynaf yn dweud wrthyf fod fy meistrolaeth o’r Gymraeg yn syndod o dila (o’i gymharu ag un ef!!). Mae’r bechgyn yn gwylio Cyw wrth iddynt fwyta’u grawnfwyd boreol ac fel teulu rydym yn ceisio mynychu gymaint o wyliau a digwyddiadau Cymraeg eu naws ag sy’n bosib.
“Byddwn i’n dweud wrth unrhyw riant sydd yn ansicr am anfon eu plant i addysg Gymraeg bod dewis addysg Gymraeg nid yn unig yn datblygu eich plentyn i fod yn amlieithog ond bod yna alw economaidd gynyddol am siaradwyr Cymraeg, ac fel rhiant, mae hwn yn fantais y gallwn ni roi i’n plant wrth wneud y penderfyniad syml o ddewis addysg Gymraeg.”
Bwriad Cynllun Llysgenhadon y Mudiad yw dangos esiampl o groesdoriad o rieni sydd wedi dewis addysg Gymraeg i’w plant a’u rhesymau dros hynny yn y gobaith y bydd mwy o rieni, yn arbennig rhieni o deuluoedd cymysg eu hiaith neu rieni di-Gymraeg, yn dewis addysg Gymraeg i’w plant.