Ddydd Sul Awst 5 am 2:30yp ar uned Mudiad Meithrin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd fe fydd y Mudiad yn lansio cynllun Llysgenhadon y Mudiad gan gyhoeddi mai’r llysgenhadon cyntaf yw Shereen Williams a Siôn Tomos Owen.
Bwriad cynllun Llysgenhadon y Mudiad yw dangos enghreifftiau o groestoriad o rieni sydd wedi dewis addysg Gymraeg i’w plant (a’u rhesymau dros hynny) yn y gobaith y bydd mwy o rieni, yn arbennig rhieni o deuluoedd cymysg eu hiaith neu rieni di-Gymraeg, yn dewis addysg Gymraeg i’w plant.
Bwriedir dangos fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru waeth beth yw eu cefndir, gan ddangos hefyd y gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd di-Gymraeg i gefnogi eu plant trwy addysg Gymraeg a’r buddion i’r plant o wneud hynny.
Mae Siôn Tomos Owen yn enwog am genhadu dros y Rhondda ond nawr mae’r awdur, cartwnydd, cyflwynydd teledu, a thad o Dreorci wedi cytuno i fod yn Llysgennad dros Mudiad Meithrin, yr elusen â’r nod i roi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y Gymraeg oedd iaith yr aelwyd yn ystod plentyndod Siôn ac fe fynychodd y Cylch Meithrin lleol cyn parhau gyda’i addysg i Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen.
Ond yn ôl Siôn nid oedd y penderfyniad yr un mor hawdd o ran addysg ei ferch Eira Lily, yn rhannol am fod ei wraig yn dod o gartref di-Gymraeg. Mae Siôn yn awyddus i deuluoedd eraill gyda naill ai un neu’r ddau riant sydd ddim yn siarad Cymraeg i benderfynu dewis addysg Gymraeg dros eu plant.
“Dim ond un genhedlaeth sydd rhaid manteisio o ddanfon eu plant i addysg Gymraeg i alluogi’r Gymraeg dyfu yn y plentyn yna ac fel dwi wedi gweld cymaint o weithiau, mae rhieni yn dysgu gyda’u plant, ond erbyn iddynt gyrraedd ysgol gyfun, mae plant yn llifo mor rhwydd rhwng y ddwy iaith, mae’n gwbl naturiol newid o un i’r llall.
“Fel rhywun dwyieithog mae’r cyfleoedd dwi di gael oherwydd mod i’n siarad dwy iaith ‘di bod yn fuddiol iawn felly os yw e’n rhywbeth economaidd, erbyn i’n plant ni dyfu mi fydd yn rhan hanfodol o’u gyrfaoedd a’u bywydau bob dydd - dwi’n gobeithio ta beth.”
Daw ail Lysgennad y Mudiad - Shereen Williams o Singapôr yn wreiddiol, ac mae’n briod ag Owain, ac yn fam i ddau fachgen sydd erbyn hyn yn yr ysgol gynradd. Mae Shereen yn enw amlwg ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth ac wedi ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol am ei gwaith.
Dywedodd Shereen:
“Doedd e ddim yn anodd dewis addysg Gymraeg i’n plant ac mewn gwirionedd roedd e’n rhywbeth roeddem wedi penderfynu arno cyn cael plant. Fy mhryder mwyaf oedd na fyddwn yn gallu eu cefnogi wrth iddynt dderbyn eu haddysg am nad oeddwn yn siarad Cymraeg. Roedd fy ngŵr wedi siarad gyda phrifathro’r ysgol Gymraeg lleol. Dywedodd wrtho na fyddai hynny’n broblem ac y bydden ni’n derbyn cefnogaeth fel teulu ar y daith hon.
“Unrhyw bryd y byddai gen i bryderon neu ofidion fe fyddwn i’n cysylltu â’r ysgol ac fe fyddai’r staff wastad yno i’m cefnogi. Mae’r teuluoedd sy’n dewis anfon eu plant ar y llwybr hwn wedi gwneud penderfyniad gweithredol i fynd ar y daith hon gyda staff yr ysgol ac mae’r ymdeimlad o fod yn rhan o’r un tîm yn amlwg, nid yn unig o ran yr addysg ond hefyd o ran y rhyngweithio gyda rhieni.”
Meddai Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae gan bob mudiad cenedlaethol ei harwyr a’n harwyr ni yw’r rhieni a’r teuluoedd hynny sy’n dewis gofal ac addysg Gymraeg i’w plant. Mae’n gwbl briodol ac amserol ein bod yn dathlu gwaith ein harwyr tawel trwy dynnu sylw at gefnogaeth dau riant eithriadol sy’n gefnogol i genhadaeth a gwaith ‘Mudiad Meithrin’”.