Yn ystod wythnos olaf mis Hydref, mae Mudiad Meithrin yn cynnal ymgyrch codi arian o’r enw “Rhywbeth Neis, Neis i De”, gan annog staff a gwirfoddolwr cylchoedd a darpariaethau’r Mudiad i gynnal te prynhawn er mwyn codi arian i’w cylch lleol neu i’r Mudiad fel elusen genedlaethol.
Fe drefnwyd nifer o gystadlaethau i ddenu sylw at yr ymgyrch hon ac un ohonynt oedd cystadleuaeth cyfansoddi Hwiangerdd newydd ar y thema ‘Rhywbeth neis, neis i de’. Daeth yr hwiangerdd newydd sbon danlli ‘Amser Te’ a gyfansoddwyd gan Eleri Vaughan Roberts o ardal Wrecsam i’r brig (gweler y poster o’r geiriau isod a’r linc i berfformiad o’r gân gan blant lleol).
Fel rhan o weithgaredd ‘Rhywbeth neis, neis i de’ grŵp Cymraeg i Blant sy’n cwrdd yn y Saith Seren, Wrecsam am 10:30 o’r gloch fore Gwener 27 Hydref bydd Eleri’n galw draw i ddysgu’r gân newydd i’r rhieni a’r plant bach fydd yn bresennol.
Meddai Eleri Vaughan Roberts, sy’n fam i ddwy ferch ifanc:
“Roeddwn i wrth fy modd pan glywais fy mod wedi ennill y gystadleuaeth cyfansoddi hwiangerdd i Mudiad Meithrin, ac roedd Erin fy merch wrth ei bodd pan welodd ei hun yn canu’r gân ar y fideo gyda’i ffrindiau o’r pentref ar wefan y Mudiad.”
Meddai Emma Burton Swyddog Maes Cymraeg i Blant yn ardal Wrecsam:
“Mae amryw o grwpiau Cymraeg i Blant am ddim yn digwydd ar draws ardal Wrecsam gyda nifer dda o rieni’n mynychu yn wythnosol. Mae’n bleser gallu cynnig cyngor, gwybodaeth, a chefnogaeth i’r rhieni hyn fedru cyflwyno ychydig o Gymraeg i’w plant yn y cartref, a pha ffordd well o gyflwyno iaith na thrwy ganu. Anrhydedd mawr yw cael Eleri yma. Fel grŵp, rydym wrth ein boddau'n canu ac mae ymatebion y babanod i'r alawon rydym yn canu yn un annwyl dros ben. Mi fydd hi'n wych felly i ychwanegu cân arall i'r casgliad ar gyfer sesiynau stori a chân.”
Mae’n braf gweld fod sefydliadau a chymdeithasau lleol hefyd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Rhywbeth Neis, Neis i De’ ac mae cannoedd o ddigwyddiadau te prynhawn yn cael eu cynnal ar draws Cymru er mwyn dod â’r gymuned leol at ei gilydd i gael hwyl, tanlinellu pwysigrwydd codi arian i’r cylch a dathlu’n Cymreictod. Mae hyn hefyd yn gyfle i ddiolch i Mudiad Meithrin yn lleol am roi’r cychwyn gorau i daith addysgol ac ieithyddol plant yr ardal ar gyfnod Diolchgarwch.
CYFLEOEDD I DYNNU LLUN
Rhieni a phlant ifanc iawn (babis fel rheol) yn cwrdd i ganu a chwarae gyda’u plant. Rydym yn disgwyl o gwnmpas 20 o blant a’i rhieni yno.