Fel rhan o ddathliadau’r 45 mlwyddiant, fe gynhaliodd Mudiad Meithrin barti pen-blwydd tra gwahanol sef “Parti Pyjamas Mwyaf y Byd” ar Ddydd Mawrth, Mai 9fed gan geisio torri record y byd o 2,004.
Fe gynhaliwyd dros 300 o bartïon gwahanol ac fe dorrwyd record y byd yn deilchion wrth i dros 8,600 gymryd rhan! Dyma inffograffeg gyda’r holl wybodaeth ichi.
Enillodd Cylch Meithrin Plws Treffynnon y gystadleuaeth ‘llun gorau’ ar y diwrnod, gan ennill aelodaeth blwyddyn gyda’r Mudiad fel gwobr!
Diolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad hwyliog gan helpu’r Mudiad i dorri record y byd!