Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru. Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r 3 uchaf yn ein Seremoni Gwobrau eleni.

 

Cynhelir Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin am 2.00 bnawn Sadwrn 15fed Hydref yn Social 23 yn Y Drenewydd.

 

Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a’r meithrinfeydd dydd. Bydd y gyflwynwraig deledu boblogaidd a phrofiadol, Mari Lövgreen yn cyflwyno’r seremoni.

 

Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:

“Mae’r Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar dros y flwyddyn a fu gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 500 o enwebiadau eleni ac mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”

 

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

 

Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad gan roi cyfle inni i gyd-ddathlu’r arfer dda sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru, dod at ein gilydd i wneud hynny a darlledu’r holl seremoni yn fyw ar y we hefyd.”

 

Cliciwch yma i weld fideos y cylchoedd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.