Mae nifer o feithrinfeydd dydd yn ymaelodi gyda'r Mudiad. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn fusnesau preifat sy'n dilyn polisau'r Mudiad.
Mae gan y Mudiad nifer o feithrinfeydd ei hunan hefyd, ac mae'r rhain yn cael eu rheoli gan is-gwmni’r Mudiad o'r enw Meithrinfeydd Cymru. Nod Meithrinfeydd Cymru yw darparu gofal dydd llawn ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gwasanaeth ar gael i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol.
Am ragor o wybodaeth am feithrinfeydd dydd y Mudiad cliciwch ar feithrinfa o'ch dewis.