Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ofal plant ac addysg Gymraeg o safon.

Fel sefydliad sy’n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg, rydym yn gwerthfawrogi fod dod o hyd i ofal plant o safon uchel yn hynod o bwysig ichi fel rhiant.

Mae Meithrinfa Medra yn darparu gofal rhagorol i fabis ifanc a phlant hyd at oed ysgol o dan ofal staff cymwys a phrofiadol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig.

Mae hapusrwydd pob plentyn yn flaenoriaeth i ni. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fydd yn hybu pob agwedd o’i ddatblygiad mewn awyrgylch hapus a diogel.

Mae’r feithrinfa wedi ei chofrestru gydag AGC.

Mae gan y feithrinfa amrywiaeth eang o deganau, llyfrau a deunyddiau crefft ac arlunio, cyfleusterau chwarae dŵr a thywod ynghyd ag amrywiaeth o offer sy’n annog chwarae dychmygus er mwyn annog bob plentyn i ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial.

Mae gyda’r feithrinfa Clwb ar ôl Ysgol.

Pecyn i rieni

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r pecyn hwn i chi, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud eich penderfyniad. Rydym yn cydnabod fod dewis meithrinfa ar gyfer eich plentyn yn benderfyniad pwysig iawn, felly, os ydych yn dymuno trafod unrhyw agwedd o’r ddarpariaeth a’r cyfleusterau mae croeso i chi gysylltu â ni.

Amseroedd agor Meithrinfa Medra

 

Dydd Llun – Gwener: 7:30yb - 6.00yh

Manylion cyswllt: 01248 725825   E-bost: post@meithrinfamedra.co.uk

Cyfeiriad: Canolfan Plant Llangefni, Ffordd y Coleg, Llangefni, LL77 7LP

"Rydym fel teulu yn ddiolchgar iawn i staff Medra am eu gofal o’n mab. Mae wedi cael llawer o hwyl a phrofiadau gennych yno. Mae’r staff bob amser yn barod i helpu."

"Amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo hyder, ymddygiad dda a datblygiad addysgol."

"Mae fy mhlentyn yn brysur yn y feithrinfa bob dydd. Rwy’n hoff o’r themau sy’n cael eu cyffwrdd a’r gweithgareddau sy’n cael eu clymu fewn."