Meddyginiaeth
- O dan rhai amgylchiadau gall staff y Cylch Meithrin weinyddu meddyginiaeth i blentyn.
- Rhaid dilyn Polisi Meddyginiaeth y cylch ynghyd â’r canllawiau yn y Cynllun Gweithredol (templed ar gael i aelodau ar y fewnrwyd)
- Rhaid sicrhau fod pob meddyginiaeth yn cael ei gadw yn unol â Pholisi Meddyginiaeth y cylch.
- Rhaid cofnodi pob tro mae cais am weinyddu yn cael ei wneud a phob tro mae meddyginiaeth yn cael ei weinyddu.
- Os bydd angen i gylch waredu unrhyw feddyginiaeth, dylid dilyn y polisi a chadw cofnod ar ffurflen Cofnod Dinistrio Meddyginiaeth.
Salwch Plant ac Oedolion
- Dylai trefniadau salwch plant gael eu cytuno rhwng rheini/gwarcheidwaid a’r cylch ar ddechrau cyfnod y plentyn yn y Cylch Meithrin trwy drefniadau’r cytundeb rhwng y Cylch Meithrin a'r rhieni.
- Dylai staff ddilyn y drefn yn ôl y Cynllun Gweithredol.
- Mewn rhai amgylchiadau mae’n rhaid cadw plentyn i ffwrdd o’r cylch er mwyn atal lledaeniad heintiau. Gweler HSE Guidance on Infection Control.
- Mae’n rhaid adrodd ar rai afiechydon i wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweler cyhoeddiad GIG Atal a Rheoli Heintiau.
Mae enghreifftiau o Gynllun Gweithredol, Polisi Meddyginiaeth, Ffurflen cais i roi Meddyginiaeth i Blentyn, Cofnod Dinistrio Meddyginiaeth a Chytundeb rhwng Cylch Meithrin a Rhieni ar gael i aelodau ar fewnrwyd Mudiad Meithrin.